Myfyriwr Hanes ar leoliad gwaith arbennig yn San Steffan
Yn ddiweddar, cwblhaodd Sean Collier, myfyriwr Hanes Prifysgol Bangor, leoliad gwaith llywodraethol yn San Steffan. Roedd y lleoliad gwaith yn rhan o brofiad ail flwyddyn Sean yn astudio am radd BA mewn Hanes Modern a Chyfoes. Dyma’i farn am y profiad:
‘Roedd fy lleoliad yn San Steffan yn brofiad anhygoel. Mae rhai o’r uchafbwyntiau’n cynnwys taith dywys o amgylch Tai’r llywodraeth a mynychu Cwestiynau’r Prif Weinidog. Roedd yn anhygoel bod yn y Llywodraeth wrth i ddigwyddiadau megis yr Etholiadau Ewropeaidd, ymddiswyddiad Theresa May ac arweinyddiaeth newydd y blaid Geidwadol fynd rhagddynt.
‘Roedd fy mhrif dasgau’n ymwneud ag ymchwil, megis casglu gwybodaeth am faterion megis Mesur Adferiad ac Adnewyddiad a Mesur Tynnu Cytundeb er mwyn creu crynodebau ar gyfer ASau’r blaid. Ynghyd â hyn, cefais y cyfle i ysgrifennu mudiant cynhadledd ar gyfer Plaid Cymru, ac ysgrifennais Mudiant yn Fuan yn y Diwrnod a gynhwyswyd yn Nhŷ’r Cyffredin!’
Cafodd Sean hefyd fewnwelediad gwerthfawr i broses y Llywodraeth, gan gynnwys: digwyddiadau dyddiol yn Nhŷ’r Cyffredin; rôl Tŷ’r Arglwyddi (a sut dewisir Arglwyddi); a sut y daw mesur yn ddeddf. Ymhelaethodd drwy ddweud, ‘Gan fy mod yn San Steffan yn ystod y dyddiau cyn yr Etholiadau Ewropeaidd, dysgais fwy am sut mae plaid yn ei hyrwyddo ei hun, megis drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddenu sylw a phleidleisiau. Mwynheais y lleoliad gwaith yn fawr, yn arbennig oherwydd tîm cyfeillgar Plaid Cymru a oedd wrth law i’m haddysgu ynghylch y modd y mae plaid yn gweithredu. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth fanteisio ar y cyfle hwn – mae’n arbennig, ac yn gyfle prin i ennill profiad ymarferol â’r llywodraeth.’
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2019