Myfyriwr Hanes yn ennill gwobr mawreddog
Llongyfarchiadau mawr i Ceiri Coker, myfyriwr yn yr Ysgol Hanes ac Archaeoleg, ar ennill Gwobr Goffa Dr John Davies yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2017. Caiff y wobr ei dyfarnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y traethawd estynedig gorau a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Hanes Cymru.
Graddiodd Ceiri Wyn Coker, 22, o Foduan ger Pwllheli gyda gradd BA Hanes yn 2016, ac mae bellach yn astudio MA mewn Hanes. Cyn mynychu Prifysgol Bangor, roedd Ceiri yn fyfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli.
Dywedodd Ceiri: “Mae’n anrhydedd ennill Gwobr Goffa Dr John Davies, oedd yn un o haneswyr amlycaf Hanes Cymru, ac roedd yn braf cael cyfarfod ei deulu yn ystod y gwobrwyo.”
Roedd Dr John Davies yn un o brif haneswyr ei genhedlaeth ac awdur Hanes Cymru a llu o gyhoeddiadau eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017