Myfyriwr israddedig yn ennill ysgoloriaeth o £15,000 i gael hyfforddiant bargyfreithiwr
Mae'r myfyriwr y gyfraith, trydedd flwyddyn o Brifysgol Bangor, Kate Longson wedi ennill ysgoloriaeth o fri gwerth £15,000 i ddilyn ei huchelgais i fod yn fargyfreithiwr.
Yn gyn-ddisgybl o St Joseph's College, Trentvale, Stoke-on-Trent, bydd Kate, o Rough Close, Swydd Stafford, yn dechrau ar y cwrs Bar Professional Training Course (BPTC) ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion ym mis Medi. Enillodd Ysgoloriaeth Lord Denning o £15,000 gan Ysbyty Lincoln ar ôl cael cyfweliad llwyddiannus yn gynharach y mis hwn. Cyn hynny enillodd yr Hardwicke Entrance Award i dalu am y gost o ymuno ag Ysbyty Lincoln (un o bedair neuadd brawdlys yn y DU, sydd rhaid i fyfyrwyr ymuno er mwyn bod yn fargyfreithiwr) a’r ffioedd Galw ar ôl cwblhau’r BPTC.
“Hoffwn ddiolch i’r staff yn Ysgol y Gyfraith Bangor am yr holl gymorth a chefnogaeth yn ystod y tair blynedd o astudio," meddai Kate, o Swydd Stafford. Ychwanegodd: “roedd agwedd bersonol yr Ysgol yn fantais bendant pan oeddwn yn gwneud cais i astudio’r BPTC. Roedd yn braf gallu eistedd lawr gyda Phennaeth yr Ysgol a mynd drwy fy ffurflen gais, rhywbeth na fyddwn wedi gallu ei wneud mewn Ysgol fwy o faint. Mae’r ffaith bod gan y staff wybodaeth ymarferol am eu pwnc yn fantais fawr hefyd – maent wedi gweithio fel ymarferwyr cyfreithiol ac yn gwybod am beth maent yn sôn”.
Meddai Aled Griffiths, Uwch Ddarlithydd a Dirprwy Bennaeth yr Ysgol: “Mae’n gamp arbennig i ennill ysgoloriaeth er cof am y cyfreithiwr enwocaf a fu erioed. Os byddwn i’n rhoi bet lawr ar bwy fyddai’n ei gael, byddwn i’n betio ar Kate. Mae wedi cyflawni hyn oherwydd ei gwaith caled a’r profiad a gafodd tu allan i’r darlithoedd, trwy weithgareddau fel achosion llys ffug - dim ond un o’r pethau y mae Cymdeithas y Gyfraith yn ei wneud i fyfyrwyr yma ym Mangor. Ar ran y staff yn Ysgol y Gyfraith Bangor hoffwn longyfarch Kate ar ei llwyddiant a dymuno pob llwyddiant iddi ar y cwrs BPTC."
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2012