Myfyriwr o Brifysgol Bangor i arwain taith i lawr afon nad yw ar fap
Mae myfyriwr gwyddor chwaraeon o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i arwain caiacwyr dŵr gwyn gorau Prydain mewn taith estynedig i ddarganfod rhannau newydd o'r dyfroedd gorau yn y byd.
Bydd Joshua Brewer-Smith, 20 oed, o Dorset, ynghyd â 6 myfyriwr arall o Loegr a'r Alban yn cymryd rhan yn y "2015 British Universities Kayak Expedition" (BUKE).
Yn hwyrach eleni, bydd tîm o gaiacwyr dŵr gwyn gorau'r DU sy'n astudio mewn prifysgolion ym Mhrydain yn teithio i Fadagascar er mwyn padlo rhannau o afon nad yw neb wedi bod arni erioed o'r blaen, gyda'r bwriad o gofnodi a chyhoeddi eu canfyddiadau i gynorthwyo caiacwyr a rafftiwyr yn y dyfodol.
Dechreuodd Josua gaiacio pan oedd yn wyth oed ac mae ganddo brofiad helaeth o gaiacio ar ddŵr gwyn ar hyd a lled Prydain ac mor bell i ffwrdd ag Ecuador. Ers symud i ogledd Cymru i astudio ym Mhrifysgol Bangor yn 2013, mae wedi cael llawer iawn o brofiad o gaiacio gan fod yr ardal yn cynnig maes hyfforddi epig.
Mae'r tîm o gaiacwyr profiadol yn awr yn paratoi at eu taith epig fydd yn para am ddau fis.
Meddai Joshua: "Tra byddem ym Madagascar, rydym yn bwriadu teithio i lawr rhai o'r afonydd dŵr gwyn ar yr ynys sydd eisoes yn hysbys. Er enghraifft, mae pobl wedi caiacio i lawr yr Ikopa, yr Onive a'r Mananjary i gyd o'r blaen. Afonydd gradd 5 yw'r rhain ac rydym yn gobeithio gallu caiacio i lawr hwy'n llwyddiannus.
"Fel nod canolog, rydym eisiau caiacio i lawr rhan isaf yr Afon Mananara i gyd, sy'n dechrau ar ôl i'r prif lednentydd ymuno. Mae'r afon hon yn tarddu ym mynyddoedd y de ddwyrain ac yn llifo i mewn i Gefnfor India yn Ampatsinakoho. Mae hi'n afon enfawr, ac mae hi'n draenio llawer iawn o dir ac mae'r rhan hon ohoni yn 140km o hyd. Yn y rhan hon, mae'r afon yn gostwng bron i 600m yn fertigol, ac mae hyn yn golygu bod llawer iawn o ddyfroedd gwyllt gyda nifer fawr o ganghennau lle mae'r afon yn hollti o amgylch ynysoedd.
"Er y bydd rhaid i ni lywio'r afon gyfan ac wynebu heriau'r dŵr gwyn wrth lywio'r rhan hon, bydd rhaid i ni hefyd osgoi'r crocodeiliaid, tra byddwn yn padlo cychod llwythog am nifer o ddyddiau. Bydd y rhan hon o'r afon yn cynnwys dŵr gwyn anhygoel, sy'n tarddu yn yr ucheldiroedd, ac yn disgyn i lawr trwy'r jyngl trwchus ac yn dod i ben ar yr arfordir lle mae diwydiant wedi rhwygo'r tir a lle mae glannau'r afon yn boblog."
Nid caiacio yw unig nod y daith, mae'r tîm i gyd yn awyddus i gyfrannu rhywbeth at bobl Madagascar fel rhan o'u taith. Un ffordd fydd trwy greu arweinlyfr i gaiacio ym Madagascar, a hyrwyddo Madagascar fel y lle mawr nesaf am wyliau caiacio.
Yn ystod y cyfnod cynllunio a'r daith ei hun, mae'r tîm yn gobeithio gallu gweithio gyda chyrff llywodraethu lleol, elusennau a sefydliadau gwyddonol er mwyn dod â budd gwirioneddol i Fadagascar.
Mae taith BUKE yn digwydd pob yn ail flwyddyn ac mae'n caniatáu i dîm o caiacwyr dŵr gwyn gorau Prydain deithio i le y cytunir arno ar y cyd (yn gyffredinol lle anghysbell iawn sydd heb ei archwilio) gyda'r bwriad o gyflawni nod y cytunir arno ynghyd â chaiacio afonydd newydd a gwneud eu marc ym myd caiacio archwiliadol. Mae teithiau blaenorol wedi gweld timau yn ymweld â lleoedd megis Venezuela, Fietnam, Siberia/Mongolia, Kyrgyzstan a llawer mwy, ac mae pob un ohonynt wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae'r timau i gyd yn dechrau heb gymorth ariannol ac mae'n rhaid iddynt chwilio am gyllid a nawdd i gefnogi eu menter.
http://www.kayakmadagascar.co.uk/
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2015