Myfyriwr o Brifysgol Bangor i gaiacio trip unwaith-mewn-oes
Mae myfyriwr dylunio cynnyrch sydd yn ei ail flwyddyn, yn athletwr antur a Christion o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn y British Universities Kayak Expedition (BUKE).
Bydd Elliot Goddard, 20, o Nelson, Caerffili, ynghyd â chwech o'r caiacwyr dŵr gwyn gorau o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, yn caiacio afonydd anghysbell ym mhellafion dwyrain Rwsia yn yr hirdaith hunangymorth hon ym mis Mehefin.
Bydd yr hirdaith yn archwilio afonydd o amgylch Llyn Baikal, gyda'r nod o ddarganfod afonydd nad fu neb yn caiacio arnynt o’r blaen.
Dywedodd Elliot: "Rwy'n edrych ymlaen ac ychydig yn nerfus am yr hyn sydd o'm mlaen i. Nid ydym yn gwybod yn iawn beth i'w ddisgwyl, ond rydym wedi astudio delweddau lloeren Google Earth a mapiau graddiant yn ofalus i gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl. Byddwn yn ddigymorth am hyd at 10 diwrnod, yn heicio i'n man cychwyn ac yn mordwyo’r afon hyd at y man gorffen."
Dechreuodd Elliot gaiacio pan oedd yn 8 oed ar wyliau yn Iwerddon. Eglurodd: "Roedd fy mhrofiad cyntaf ar gaiac yr ydych yn eistedd arno, ac roeddwn wrth fy modd! Yna, cefais wybod bod ffrind yn mynd i'r clwb lleol - Clwb Canŵio Aberfan - felly ymunais innau hefyd.
"Ar ôl trip y clwb i Ganolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, mi ges i fy nghaiac cyntaf - sef caiac y dull rhydd. Diolch i gefnogaeth fy rhieni, roeddwn yn caiacio 3 gwaith yr wythnos, ac yn y pen draw fe ddarganfûm gaiacio slalom, lle mai'r nod yw rhedeg cwrs cyflym mewn afon a hwnnw wedi ei farcio gan "gatiau", a hynny’n chwim, a heb eu cyffwrdd.
"Cefais fy nghyflwyno i Nigel Midgley, Swyddog Datblygu Cenedlaethol Canŵio Cymru, ac yna cefais fy hyfforddi mewn Canŵio Slalom nes oeddwn yn 16 oed, gan gynrychioli Cymru ond colli'r cyfle i gynrychioli Prydain o drwch blewyn.”
Cafodd Elliot llwyddiant mewn llawer o gystadlaethau. Daeth yn drydydd yng Nghwpan Slalom Canŵs Iau’r Danube 2015; yn ail yn Null Rhydd Agored Cymru 2017 ac enillodd Farathon Iau Brenin yr Alpau yn 2017. Mae wedi cynrychioli Cymru mewn Slalom Canŵ ac yn 2018 bu’n cynrychioli Prydain Fawr yng Nghystadleuaeth y Byd y Slalom Eithafol o dan 23.
Mae’r daith yn cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Bangor, meddai Elliot: "Rwy'n hynod ddiolchgar i Gronfa Bangor am helpu gyda'r cyfle hwn drwy ariannu’r costau hedfan. Rwy'n gobeithio y gwnaiff hyn roi cyfleoedd i mi yn y dyfodol i helpu'r diwydiant awyr agored i ddylunio ac archwilio, a fy ngalluogi i roi yn ôl i bawb sydd wedi fy nghefnogi."
Dywedodd Emma Marshall, Cyfarwyddwr Cronfa Bangor: "Mae'r daith unigryw hon yn bosib trwy rodd gan Gronfa Bangor. Mae Cronfa Bangor yn gwella ansawdd profiad ein myfyrwyr yn y Brifysgol drwy gefnogi eu haddysg a'u datblygiad. Er enghraifft, drwy fwrsariaethau teithio, ysgoloriaethau, darpariaeth chwaraeon neu weithgareddau diwylliannol, mae'r ystod eang o gefnogaeth a ddarperir gan Gronfa Bangor, yn galluogi'r Brifysgol i gyflwyno "elw o ragoriaeth".
Yn ystod ei flwyddyn olaf, mae Elliot yn gobeithio cael lleoliad gwaith gyda chwmni caiacio, lle y gallai'r profiad o brofi ethnograffig a geir mewn amgylchedd hirdaith helpu dylunio, datblygu a gwella perfformiad, cynaliadwyedd a diogelwch.
Mae'r radd Dylunio Cynnyrch ar gynnig gan yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol, sydd hefyd yn cynnig cwrs TAR mewn Gweithgareddau Awyr Agored. Saif yr Ysgol ar Safle'r Normal, ger Afon Menai, stribed helaeth o ddŵr, sydd o werth mawr i’r myfyriwr. Mae cwrs BSc Gwyddor Chwaraeon Antur y Brifysgol hefyd wedi'i leoli ar Safle’r Normal.
Mae taith BUKE yn digwydd bob yn ail flwyddyn ac mae'n caniatáu i dîm o gaiacwyr dŵr gwyn gorau Prydain deithio i le y cytunir arno ar y cyd (yn gyffredinol mae’n lle anghysbell iawn sydd heb ei archwilio) gyda'r bwriad o gyflawni nod y cytunir arno ynghyd â chaiacio afonydd newydd a gwneud eu marc ym myd caiacio archwiliadol. Mae teithiau blaenorol wedi gweld timau yn ymweld â llefydd megis Venezuela, Fietnam, Siberia/Mongolia, Kyrgyzstan a llawer mwy, a bu pob un ohonynt yn llwyddiant ysgubol. Mae'r timau i gyd yn dechrau heb gymorth ariannol ac mae'n rhaid iddynt chwilio am gyllid a nawdd i gefnogi eu menter.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2019