Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn cael ei ddewis i sgwad Rygbi Cynghrair Cymru
Mae Rygbi Cynghrair Cymru wedi cadarnhau eu sgwad myfyrwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer pencampwriaeth y pedair gwlad sy’n cychwyn ar 12 Mehefin yng Nghaeredin, lle bydd Cymru'n chwarae yn erbyn Iwerddon, Lloegr a'r Alban.
Mae Chris Jones, 21 oed, o Dreffynnon, sy’n fyfyriwr dylunio cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor, yn un o’r 20 o fyfyrwyr sydd wedi eu dewis o blith 13 sefydliad addysgol ym mhob rhan o Brydain.
Mae Chris wedi bod yn chwarae rygbi ers blynyddoedd lawer ac mae wedi chwarae i nifer o dimau, gan gynnwys y Chester Gladiators yn fwyaf diweddar.
Dywedodd Chris: "Dwi ar ben fy nigon fy mod i wedi cael fy newis, nid yn aml y mae rhywun yn cael yr alwad i chwarae dros eu gwlad; a does gen i ddim amheuaeth y bydd hyn yn brofiad bythgofiadwy. Dwi'n teimlo'n falch iawn o fod yn cynrychioli Cymru, yn enwedig gan mai dim ond ychydig iawn o bobl sy’n cael eu dewis i chwarae.”
"Dwi’n gobeithio bydd y profiad yn gwella fy sgiliau rygbi cynghrair ymhellach. Mi fydd safon y bencampwriaeth yn eithriadol o uchel ac mi fydd y gystadleuaeth yn ffyrnig, a dwi’n gobeithio chwarae mor dda ag y medra i.”
"Yn dilyn y twrnamaint, ac unrhyw gemau pellach, dwi’n gobeithio mynd yn ôl at y Chester Gladiators efo gwell ymdeimlad at y gêm."
Dywedodd Latham Tawhai, Prif hyfforddwr: "Dan ni wedi dewis y grŵp yma o chwaraewyr ar ôl y penwythnos hyfforddi gafon ni yng Nghlwb Rygbi Caerffili lle cafodd y chwaraewyr ddau ddiwrnod o hyfforddiant dwys i'w paratoi nhw ar gyfer pa mor galed fydd y twrnamaint oherwydd mi fydd angen iddyn nhw chwarae tair gêm mewn chwe diwrnod.”
"Er bod rhai o'r chwaraewyr yma ddim ar gael eleni oherwydd ymrwymiadau eraill, dan ni’n teimlo’n gyffrous wrth gael datgelu rhai o’r doniau addawol sydd gynnon ni yng Nghymru.”
“Heb amheuaeth, hwn fydd un o’r timau myfyrwyr ieuengaf erioed i ni fynd â nhw i’r twrnamaint ond, o ystyried mai dim ond blwyddyn sydd tan Gwpan y Byd, roedden ni’n teimlo ei bod yn bwysig bod rhai o’r chwaraewyr iau yn cael y profiad er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw at y flwyddyn nesaf. Fe wnân nhw ddysgu lot wrth fod yn rhan o'r twrnamaint yma ac mi fyddan nhw mewn sefyllfa dda ar gyfer 2017."
Mehefin 13eg-18fed – Twrnamaint Myfyrwyr y Pedair Gwlad, Prifysgol Caeredin, Caeau Chwarae Peffermill
13 Mehefin – Iwerddon v Lloegr 15:30, Cymru v Yr Alban 18:00
15 Mehefin - Cymru v Iwerddon 15:30, Lloegr v Yr Alban 18:00
18 Mehefin - Yr Alban v Iwerddon 12:00, Cymru v Lloegr 14:30
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2016