Myfyriwr o Fangor yn edrych ymlaen at wobrau RTS
Bydd gan fyfyriwr o Brifysgol Bangor ddiddordeb arbennig yn noson wobrwyo’r Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) a gynhelir ar 19 Fawrth.
Mae Osian Williams, 20, sy’n wreiddiol o’r De ac yn nhrydedd flwyddyn ei gwrs BA Cyfathrebu a’r Cyfryngau, wedi cael ei gredyd teledu cyntaf am ffilm a gynhyrchwyd gan y BBC/S4C. Mae'r ffilm, ‘Fy Chwaer a Fi’, wedi'i henwebu am wobrau ledled y byd, a hon yw'r ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei henwebu yn y categori i’r rhaglen ddogfen sengl orau yng ngwobrau'r Gymdeithas Deledu Frenhinol.
Mae ‘Fy Chwaer a Fi’ yn ffilm ddogfen a grëwyd yn sgil y gyfres deledu Beautiful Lives am hosbis blant Tŷ Hafan. Mae’r ffilm gan yr efeilliaid Catherine a Kirstie Fields, 18, o Lanelli sy'n dioddef o salwch unigryw sydd wedi' eu gwneud yn fud ac yn gaeth i gadeiriau olwyn. Ar ôl blynyddoedd heb lais, daeth dyfodiad peiriannau siarad electroneg a chyfle i'r merched siarad am eu bywydau a rhannu eu hofnau a'u gobeithion gyda'r byd.
Mae Osian yn edrych ymlaen at glywed canlyniadau’r noson, a dywed: "Roedd hwn yn gyfle gwych i mi gael gweithio gyda chynhyrchwyr profiadol iawn. Mae gweithio ar hwn wedi helpu fy astudiaeth unigol ac elfennau eraill o fy ngwaith academaidd. Mae hi'n fraint i mi gael bod yn rhan o'r ffilm hon sydd yn dweud stori unigryw iawn. Mae'r chwiorydd a'u teulu yn haeddu’r holl glod sydd yn dod yn sgil hyn."
Cyfarwyddwr y ffilm yw Mei Williams, a bu iddo gyfarfod ag Osian trwy gyfeillion Tŷ Hafan wrth ffilmio Beautiful Lives yn 2011, meddai:
“Roedd Osian yn frwdfrydig iawn ac roedd ganddo ddiddordeb gwneud rhaglenni dogfen. Anfonodd enghreifftiau o'i waith ataf oedd yn dangos graen creadigol amlwg. Rhwng ei allu gweledol a'i frwdfrydedd, roedd gwahodd Osian i ymuno a'r ffilmio am ddiwrnod yn ddewis hawdd, roeddwn yn gwybod byddai ei natur hwyliog yn ysgafnhau'r awyrgylch i'r merched a byddai'n llwyddo i ffilmio delweddau trawiadol.
“Ers hynny, mae Osian wedi parhau i ddisgleirio. Mae wedi gwneud ffilm fer i S4C am bwnc anodd gan ddangos aeddfedrwydd rhyfeddol o ystyried ei fod yn gyfarwyddwr mor ifanc. Rwy’n gobeithio'n fawr gallwn barhau i weithio gydag Osian yn y dyfodol agos.”
Wrth sôn am enwebiad ‘Fy Chwaer a Fi’, ychwanegodd Mei:
“Nid er mwyn ennill gwobrau mae'r math hwn o ffilm yn cael ei chynhyrchu, ond mae'r enwebiad yn rhoi cydnabyddiaeth i’r merched ac S4C/Bulb Films am fentro gwneud ffilm ddewr am bwnc mor anodd.”
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2013