Myfyriwr o Fangor yn ennill Gwobr Myfyriwr sy’n Gwirfoddoli’r Flwyddyn
Dyfarnwyd Steve Barnard yn Fyfyriwr sy’n Gwirfoddoli’r Flwyddyn gan fudiad Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau (BUCS) yn eu cinio blynyddol yn Leeds eleni.
Roedd Steve, sy’n 29 mlwydd oed o Lanfairpwll, Ynys Môn, ac sydd newydd gwblhau gradd mewn Bioleg Môr a Sŵoleg, yn hyfforddwr deifio cyn iddo ddod i Brifysgol Bangor yn 2007 ac, yn gwbl anhunanol, mae’n cyfrannu 40 awr bob wythnos, gyda’r hwyr ac ar benwythnosau a rhwng ei ddarlithiau, i gynorthwyo eraill.
“Yr hyn sy’n gwneud Steve yn arbennig yw mai’n anaml y bydd yn dweud ‘na’ – mae ganddo agwedd gwbl gadarnhaol ac mae’n cymell ac yn datblygu eraill i ddilyn ei esiampl. Mae Steve yn treulio ei holl amser hamdden bron yn hyfforddi eraill mewn sawl maes, gan gynnwys Rygbi’r Undeb Dynion a Merched a Nofio Tanfor” meddai Danielle Giles, Is Lywydd Chwaraeon a Byw’n Iach Undeb Myfyrwyr Bangor.”
“Mae wedi gweithio’n agos iawn gyda’r Undeb Athletau ar nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys cynnig Cymorth Cyntaf ar gyfer digwyddiad Marathon i elusen, gan alluogi myfyrwyr eraill i gael budd o’i brofiad. Un digwyddiad sy’n sefyll allan yn arbennig, oedd pan dorrodd ôl llong modur gwch rhwyfo yn ei hanner, a hynny ar ganol sesiwn flasu’r Clwb Rhwyfo, gan adael 8 o bobl, gan gynnwys dechreuwyr llwyr, yn y môr.
"Arweiniodd Steve yr ymdrech i’w hachub gyda llwyddiant mawr; erbyn i’r gwasanaeth bad achub a’r gwasanaeth tân gyrraedd roedd Steve a’i dîm wedi achub pawb ac yn gwarchod y cwch rhag ofn iddo fod yn berygl i eraill ar y môr. Sicrhaodd hefyd fod cymorth cyntaf ar gyfer sioc a hypothermia yn cael ei gynnig i’r rhwyfwyr. Cymeradwywyd ef am ei waith gan y gwasanaeth bad achub (RNLI)”.
Dyma rai o’ gyraeddiadau eraill Steve:
• Cynhaliodd gynhadledd deuddydd i Seasearch ym mis Ebrill 2011 – mudiad sy’n codi ymwybyddiaeth am Gadwraeth a Monitro Morol.
• Cyfarwyddodd ddigwyddiad plymio ar gyfer Diwrnod y Ddaear ar 23 Ebrill 2011 i Project Aware.
• Cynhaliodd Gynhadledd Cadwraeth Siarcod Thresher ar gyfer 50 o bobl, gan gynnig lleoliadau gwaith tramor i fyfyrwyr oedd yn gorffen eu gradd.
• Cafodd ei gyfweld gan Heart FM ynghylch ei ymgyrch i lanhau amgylchedd is-lanw Cymru.
• Mae wedi cyhoeddi dwy erthygl o ganlyniad i’r mentrau cyhoeddus dros gadwraeth mae wedi’u harwain.
• Cynhaliodd ‘sesiynau blasu’ plymio ar gyfer 80 o bobl, gan gynnwys y cyhoedd, gan roi hwb i’n henw da yn y gymuned.
• Trefnodd ac arolygu’r cymorth cyntaf ar gyfer y bencampwriaeth Ffrisbi Eithafol diweddar.
• Cafodd glod am roi gofal brys mewn damwain ffordd wrth ddychwelyd o chwarae gêm Rygbi’r Undeb BUCS yng Nghaer.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2011