Myfyriwr o Fangor yn rhedeg Marathon Môn er cof am ei dad
Mae myfyriwr PhD o’r Ysgol Gwyddorau’r Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mangor yn rhedeg marathon Ynys Môn ddydd Sul er cof am ei dad.
Roedd Wojciech Waliszewski, 39, yn ofalydd llawn amser i’w dad Wladyslaw, wedi iddo ddioddef o strôc anferth ym mis Hydref 2006.
'Roedd staff yn fy adran academaidd yn hynod gefnogol ac fe adawon nhw i mi symud i gartref fy nhad ym Mirmingham am 18 mis i ofalu amdano yn llawn -amser yn ystod fy astudiaethau.”
'Yn ystod y cyfnod lle roeddwn i’n ofalydd llawn amser roedd yna nifer o sefydliadau ar gael i fy helpu i ofalu amdano,” meddai
'Un o’r sefydliadau hynny oedd Crossroads Care, a oedd yn darparu gofalwyr i edrych ar ôl fy nhad am ychydig oriau bob wythnos er mwyn i minnau gael toriad, mynd allan o’r tŷ, cysgu neu ymlacio.”
'Roeddent yn anhygoel, felly dwi’n rhedeg er mwyn codi ymwybyddiaeth am eu gwaith a chodi arian ar eu cyfer ac wrth gwrs i gofio am fy nhad.”
Bu farw ei dad a oedd yn hen filwr yr Ail Ryfel Byd, ym mis Medi 2008 ac mae Wojciech yn awyddus iawn i ddangos ei fod yn ddiolchgar iawn i Crossroads Care ac i godi arian er cof am Wladyslaw.
Mae Wojciech eisoes wedi codi £360, ar yr amod ei fod yn gorffen y ras, ac mae’n gobeithio dyblu'r swm hynny trwy ychwaneg o roddion. Ychwanegodd,
‘Dim yr arian ydi’r peth pwysicaf i ddweud y gwir. Codi ymwybyddiaeth am waith da'r gofalwyr ydi’r prif nod.”
Daeth Wojciech i Fangor yn 2001 i astudio ei radd Feistr mewn Coedwigaeth Amgylcheddol ac fe dreuliodd gyfnod yn gweithio i’r Brifysgol ar brojectau yn Lesotho, De Africa a Nepal. Ers 2005 mae wedi bod yn gweithio yng nghorllewin Africa ar radd PhD mewn Agrogoedwigaeth lle bu’n astudio ac yn tyfu Katemfe, planhigyn sydd yn cynhyrchu sylwedd melys naturiol, Thaumatin, sy’n tyfu o dan goed rwber fel incwm posibl ar gyfer y ffermwyr rwber yn yr ardal.
Dau ddiwrnod ar ôl y marathon ddydd Sul, Medi 26 bydd Wojciech yn eistedd ei arholiad llafar olaf ar gyfer y PhD cyn teithio i Golombia i briodi ei ddyweddi, Sonia sydd newydd gyflawni PhD mewn Agrogoedwigaeth ar y rhaglen CATIE-Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2010