Myfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor wedi llofnodi cytundeb i ysgrifennu bywgraffiad am fand pync
Mae Joe Shooman, 41 oed o Groesoswallt, newydd lofnodi cytundeb i ysgrifennu bywgraffiad am y band pync-pop 'All Time Low' o'r Unol Daleithiau. Cyhoeddir y llyfr 75,000 o eiriau gan Music Press Limited yn y DU yn ystod gwanwyn/haf 2016.
Mae Joe, sy'n wreiddiol o Fangor, yn ei flwyddyn olaf ar hyn o bryd yn astudio PhD mewn Ysgrifennu Creadigol yn yr Ysgol Saesneg. Hwn fydd y chweched llyfr i Joe ei gyhoeddi gyda’i lyfrau blaenorol yn cynnwys bywgraffiadau o Blink-182, MySpace, Trivium, Kasabian a chanwr Iron Maiden, Bruce Dickinson.
Meddai: "Mae'r llyfr newydd yn fywgraffiad o'r banc pync-pop All Time Low, sydd wedi cael gyrfa 12 mlynedd ac mae ganddynt ddilynwyr mor frwdfrydig mae'n anodd peidio â'u hoffi.
"Roeddwn eisiau gwneud project mawr fel hwn gan fy mod yn fyfyriwr PhD rhan amser ac roedd hynny'n fy ngalluogi i edrych ar fathau eraill o waith. Mae'r ddau beth yn cydweithio'n dda iawn, oherwydd pan rwy'n gweithio ar un ohonynt rwyf yn cael llwythi o syniadau ar gyfer y llyfr/project nad wyf yn gweithio arno ar y pryd."
Ychwanegodd Joe: "Rwyf wrth fy modd gyda cherddoriaeth ac mae'n fraint cael ysgrifennu amdani. Ond mae'n rhaid i mi atgoffa fy hun o hynny weithiau pan mae bron yn hanner nos ac rwyf yn syllu ar sgrin wag!"
Cyn dod i astudio ym Mangor, bu Joe yn gweithio fel newyddiadurwr am 20 mlynedd, yn ysgrifennu'n bennaf ar gyfer cylchgronau cerddoriaeth ac adloniant yn y DU a thramor. Bu hefyd yn gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer labeli cerddoriaeth indie. Mae rhai o uchafbwyntiau ei yrfa yn cynnwys bod yr un cyntaf yn y DU i gyfweld â Lady Gaga. Mae hefyd wedi cyfweld â Tom Jones a Lionel Richie. Bu Joe a'i wraig Suzy, sy'n athrawes iaith, hefyd yn byw ar Ynysoedd y Cayman.
Meddai Joe: "Cawsom y cyfle i fyw yn y Caribî ac ni allem ei wrthod. Mae’n hollol wir am y traethau gwyn anhygoel a'r moroedd clir a chynnes - mae'n lle arbennig iawn. Ar ôl treulio pedair blynedd yno roeddem yn ceisio meddwl beth i'w wneud nesaf - roeddwn wedi bod yn gweithio ar y papur lleol - a daeth y cyfle i mi feddwl am addysg bellach. Roedd yr her yn apelio ataf gan fy mod wedi bod yn ysgrifennu erioed ond heb gael y cyfle i archwilio'r agwedd ysgrifennu creadigol. Roeddwn bob amser yn ysgrifennu ffansinau a dramâu ac ati pan oeddwn yn ifancach ond roedd rhaid eu gadael oherwydd y broblem oesol o orfod ennill arian. Meddyliais os na fyddwn yn rhoi cynnig arni a'i wneud yn awr yna efallai na fyddwn fyth yn cael y cyfle i weld beth arall y gallwn roi fel her i mi fy hun. Roedd hefyd yn wych cael dod adref ar ôl bod i ffwrdd am 13 mlynedd i weld y teulu a gwylio tîm pêl-droed Dinas Bangor!"
Wrth sôn am y dyfodol, ychwanegodd Joe: "Ar hyn o bryd, rwy'n ysgrifennu ar gyfer ychydig o gylchgronau yn cynnwys Record Collector, Bass Guitar Magazine a Bitten, cylchgrawn bwyd o'r gogledd-orllewin. Rwyf hefyd yn darlithio am ychydig oriau yn y Liverpool Institute for Performing Arts ar y wasg gerddoriaeth, datganiadau i'r wasg a sut i hyrwyddo eich hun fel band.
"Rwy'n gobeithio cyhoeddi fy PhD yn gyntaf - mae'n nofel 80,000 o eiriau yn seiliedig yn fras ar fy mhrofiadau o fod yn alltud ar ynys fechan. Ar ôl hynny rwy'n gobeithio gweithio ym maes cyhoeddi, parhau i ysgrifennu a gobeithio creu gyrfa fel awdur ffuglen os yn bosib."
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2015