Myfyriwr Prifysgol Bangor i weithio ar broject gydag un o awduron amlyca’r byd
Mae Ashwin Sanghi, myfyriwr PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor – sydd eisoes wedi dod i fri mawr fel awdur yn ei wlad enedigol, India – yn mynd i lunio nofel ar y cyd gydag awdur a ddisgrifir fel ysgrifennwr llyfrau ffuglen droseddol mwyaf poblogaidd y byd: James Patterson.
Mae James Patterson wedi datblygu cyfres hynod boblogaidd o nofelau, lle mae’n gweithio gydag awduron lleol i gyd-ysgrifennu’r gyfres ‘Private’ o nofelau trosedd sydd ar frig y rhestrau gwerthu ledled y byd. Mae’r gyfres wedi’i seilio ar weithgareddau asiantaeth dditectif o’r enw ‘Private’ sydd â changhennau ym mhrif ddinasoedd y byd. Trwy gydweithio ag awduron poblogaidd o wahanol wledydd a diwylliannau mae James Patterson yn llwyddo i gyflwyno darlun cywir a dilys o ddinasoedd mawr, gwledydd a diwylliannau’n fyd-eang.
Ar gyfer ‘Private India’, mae cyhoeddwyr Ashwin Sanghi, Random House India a Cornerstone, sy’n gangen o Random House UK, wedi cyhoeddi cydweithio newydd rhwng James Patterson ac Ashwin Sanghi.
Mae Susan Sandon, rheolwr gyfarwyddwr Cornerstone, Random House UK wedi sicrhau’r hawl i gyhoeddi ‘Private India’ ar draws tiriogaethau’r Random House Group. Bydd ‘Private India’ (teitl dros dro) yn cael ei gyhoeddi’n fuan yn 2014 gan amlygu doniau ysgrifennwr nofelau cyffrous amlyca’r byd ar hyn o bryd ac awdur Indiaidd sydd ar frig y rhestrau gwerthu yno gyda’i gyfrolau The Krishna Key a Chanakya’s Chant. Yn y llyfr ceir cyfuniad o’r symud cyflym a welir yng ngwaith Patterson a’r ymchwil drwyadl a’r plotiau gafaelgar sy’n nodweddu llyfrau cyffrous Sanghi. Bydd cyhoeddi ‘Private India’ yn dilyn blwyddyn o weithgaredd hyrwyddo mawr i James Patterson yn India, gan ddechrau gyda chyhoeddi fersiwn clawr papur unigryw o Alex Cross. Bydd y gyfrol honno’n ymddangos yn Chwefror 2013, cyn cyhoeddi’r fersiwn clawr caled yng ngweddill y byd.
Meddai James Patterson: “Mae ysgrifennu fy nghyfres lyfrau ‘Private’ wedi rhoi cyfle i mi weithio efo awduron lleol ar lyfrau cyffrous sydd wedi’u lleoli ar hyd a lled y byd. Ni ellid cael gwell lle na’r India, efo’i dinasoedd prysur a lliwgar a’i hanes a’i threftadaeth gyfoethog, i leoli antur nesaf ‘Private’. Ac ni allwn fod wedi cael gwell partner ysgrifennu nag Ashwin Sanghi efo’i wybodaeth hanesyddol eang a’i hoffter o blotiau sy’n symud yn gyflym. Dwi’n edrych ymlaen at weithio efo fo i greu antur unigryw wedi’i leoli yn India.”
Meddai Ashwin Sanghi: “Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, mae James Patterson wedi gwerthu mwy o lyfrau nag unrhyw awdur arall ar draws y byd. Mae’n anrhydedd mawr cael cyd-ysgrifennu nofel gyffrous wedi’i seilio ar India gyda’r arch storïwr ei hun. Dwi’n gweld hwn yn gyfle hefyd i mi fireinio fy sgiliau mewn genre ychydig yn wahanol, ond hynod gyffrous. Dwi’n sicr y bydd y cyfuno yma ar syniadau o’r Dwyrain a’r Gorllewin yn arwain at lyfr gafaelgar a darllenadwy iawn.”
Meddai Dr Nathan Abrams o Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor a goruchwyliwr PhD Ashwin Sanghi: “Dwi wrth fy modd efo’r newyddion yma. Mae Ashwin yn dal i fynd o nerth i nerth, o awdur oedd wedi’i ddysgu ei hun a chyhoeddi ei lyfrau ei hun, i gydweithio gydag un o awduron mwyaf adnabyddus y byd. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at ffrwyth eu cydweithio.”
Meddai Ashwin Sganghi ymhellach: “Fe wnes i benderfynu astudio am PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a chwiliais am raglen a fyddai’n fy ngalluogi i ddilyn fy amcanion eraill mewn bywyd gan roi cyfle i mi’r un pryd i archwilio fy ngwaith yn feirniadol. Dwi’n credu bod y broses o hunanymholi a ddechreuwyd ym Mangor yn sicr wedi fy helpu i ddatblygu fel ysgrifennwr. Prifysgol Bangor oedd fy newis cyntaf, yn bennaf oherwydd hyblygrwydd y rhaglen ynghyd â safonau academaidd uchel. Roeddwn wedi disgwyl cwblhau’r rhaglen ar ôl ysgrifennu fy nofel gyntaf, ond yn awr mae’n ymddangos y byddaf yn ei gorffen ar ôl cyhoeddi fy mhumed!”
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2013