Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill grant wnaiff newid ei fywyd i ddatblygu ei syniad technoleg addysg
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol i feddwl am syniadau am offer ac apps digidol newydd ar gyfer dysgu.
Bydd Joe Perkins, 22, o Bournemouth, Dorset yn derbyn cyllid a chefnogaeth fel rhan o Haf Jisc o Arloesi Myfyrwyr. Bu'r gystadleuaeth yn galw am syniadau technolegol a allai wella profiad myfyrwyr mewn addysg bellach neu addysg uwch, a denwyd dwsinau o ymgeiswyr ac enillodd eu cynigion gyfanswm o 7614 o bleidleisiau ar wefan Elevator.
Syniad Joe oedd Course Match, app sy'n defnyddio dysgu peiriant a rhyngwyneb cyfarwydd Tinder i helpu myfyrwyr i benderfynu pa gwrs gradd i'w ddilyn.
Fel un o'r 15 syniad buddugol, mae Joe wedi derbyn £2,000 o gyllid a bydd yn derbyn cefnogaeth gan arbenigwyr Jisc i weithio ar ei syniad yn ystod cyfres o weithdai dros yr haf.
Meddai Paul Bailey, uwch reolwr cyd-ddylunio Jisc: “Mae'r gystadleuaeth Haf Arloesi Myfyrwyr yn ei phedwaredd flwyddyn bellach, ond mae'r syniadau gwych yn dal i ddod, gan brofi bod myfyrwyr yn ffynhonnell o wybodaeth ac arloesedd pan mae'n dod at dechnoleg addysg. Fel arfer, derbyniwyd llawer o syniadau cyffrous ac arloesol ac roedd dewis yr enillwyr yn dasg anodd. Dewiswyd yr ymgeiswyr hyn oherwydd bod eu syniadau'n arloesol a chyffrous ac yn mynd i'r afael â chyfleoedd newydd mewn technoleg addysg. Maent hefyd yn cynnig syniadau posibl y gallwn eu datblygu'n gynnyrch ac mae ganddynt botensial i gael effaith wirioneddol ar ddysgu, addysgu neu ymchwil".
"Dylai Joe fod yn falch iawn o fod wedi'i ddewis fel un o'r enillwyr. Edrychaf ymlaen weld sut bydd y cysyniad yma'n datblygu dros y misoedd nesaf."
Mae Joe yn graddio'r wythnos hon gyda gradd BSc 2.1 mewn Cyfrifiadureg.
Meddai Joe: “Rwyf wrth fy modd o fod wedi ennill cyllid gan Jisc, ac rwy'n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr wrth imi geisio sefydlu Course Match!
“Mae fy nghyfnod ym Mangor wedi bod yn llwyddiant mawr, ac wedi siapio pwy ydw i nawr. Bydd cefnogaeth y Brifysgol a ffrindiau oes gyda mi am byth, a byddaf yn fythol ddiolchgar am hynny!
"Mae'r Ysgol Gyfrifiadureg wedi bod yn rhagorol drwy gydol fy astudiaethau, gan gynnig cymorth pan oedd angen, yn ogystal â chwricwlwm o'r safon uchaf a ddysgid gan amrywiaeth eclectig o ddarlithwyr ac aelodau staff ysbrydoledig.
"Yn benodol, hoffwn ddiolch i'r Undeb Athletau ac i glwb hoci'r dynion, sydd wedi fy helpu i lwyddo yn ystod fy nghyfnod ym Mangor, a bûm yn gapten ar dîm 1XI y dynion eleni, gan eu harwain i rownd derfynol genedlaethol am y tro cyntaf yn eu hanes.
"Ar ôl graddio byddaf yn ymrwymo fy amser i gyd i Course Match gan geisio'i wneud yn fusnes llwyddiannus, gyda'r gobaith un diwrnod o helpu darpar fyfyrwyr i ddod o hyd i gwrs gradd sy'n gweddu iddyn nhw, er mwyn iddynt allu cwblhau a mwynhau eu hastudiaethau, a mynd allan i'r byd fel pobl ifainc broffesiynol."
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2016