Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill gwobr BAFTA Cymru
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor, Osian Williams, wedi ennill Gwobr BAFTA Cymru.
Mae ei ffilm fer, ‘Cân i Emrys’, a fu'n cyfarwyddo yn ystod ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill y wobr yn y categori ‘Ffurf Fer’.
Mae Osian, 21, o Bontypridd, nawr yn parhau â’i addysg ym Mangor drwy astudio cwrs MA mewn gwneud ffilmiau yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau. Dywedodd Osian:
"Roedd staff yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau yn help mawr i mi. Maent wedi fy nysgu sut i wneud ffilm ac maent wedi cymryd yr amser i ddarllen a helpu gyda'r sgript.
"Maen nhw wedi dangos i mi sut i wneud pethau fy hun. Mae ennill y wobr yn dangos nad oes angen cyllideb fawr, llawer o brofiad na bod yn hŷn i ennill gwobr. Mae'n dangos y gall myfyriwr ei wneud.
"Mae'r fuddugoliaeth yn golygu popeth i mi, ac roedd y noson yn un o’r rhai gorau yn fy mywyd. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn meddwl y byddwn yn cael fy enwebu am wobr am o leiaf 10 mlynedd.
"Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill a phan wnes i, roedd rhaid i’r sawl oedd yn eistedd nesaf i mi, Mei Williams, enillydd Cyfarwyddwr Ffeithiol Gorau a Ffotograffiaeth Ffeithiol Gorau, fy ysgwyd a dangos y ffordd i’r llwyfan.
"Yn y parti ar ôl y seremoni, fe wnes i gwrdd â llawer o wynebau enwog. Cefais fy nhrin fel rhan o'u diwydiant ac roedden nhw’n fy nghymryd o ddifrif.
"Cefais fy llongyfarch gan Michael Sheen, a Craig Bellamy ... hefyd, fe gefais fanylion cyswllt Charlotte Church!”
Mae'r ffilm ddogfen fer tair munud am bŵer cerddoriaeth yn cynnwys y cerddor Manon Llwyd, sy'n edrych yn ôl am y tro cyntaf ar effeithiau ei phreswyliad cerddorol mewn cartref gofal yng ngogledd Cymru.
Fel y mae'n perfformio mewn sesiwn un i un i Emrys Roberts, 93, mae'n chwarae un o'i hoff ganeuon o'i blentyndod, sy'n dod â llif o wahanol atgofion yn ôl iddo o'i orffennol.
Comisiynwyd Osian i gynhyrchu'r ffilm ar gyfer preswyliad artistig cyntaf project Pontio Prifysgol Bangor. Dangoswyd y ffilm fel rhan o gyfres ‘Calon Cenedl’ S4C fis Rhagfyr y llynedd.
Dywedodd Dr Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys yn S4C a chyn-ddarlithydd yn yr ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau , a ddarlithiodd i Osian am 2 flynedd, ei fod yn ymwybodol iawn o dalent a photensial Osian wedi iddo ei ddysgu am ddwy flynedd. Meddai Dr Iwan:
“Mi wnes i annog Osian i gadw mewn cysylltiad ac anfon ffilmiau roedd yn ei gynhyrchu. O’r funud y gwelais ei ffilm fer ‘Cân i Emrys’ roeddwn yn gwybod bod yn rhaid comisiynu hon i’w darlledu ar S4C. Dylid cadw mewn cof bod Osian yn cystadlu yn erbyn cynhyrchwyr a chwmnïau ledled Cymru am gomisiwn o’r fath, ond roedd safon y gwaith mor arbennig, yn dechnegol, yn olygyddol ac o ran ei weledigaeth, fel nad oedd amheuaeth gennyf ei fod yn haeddu comisiwn. Tipyn o gamp i fyfyriwr prifysgol. Darlledwyd y ffilm fis Rhagfyr y llynedd ar S4C. Mae gyrfa arbennig o flaen Osian os bydd yn parhau i ddatblygu fel hyn, ac mae S4C yn falch o fod wedi bod yn gyfrwng i ddarlledu ei ffilm fer.”
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2013