Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel
Mae myfyriwr Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor i’w longyfarch ar ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni.
Mewn cystadleuaeth o safon ardderchog a gynhaliwyd ac a ddarlledwyd yn fyw ar S4C nos Sul 14 Hydref 2012, bu Huw Ynyr, canwr yn cystadlu yn erbyn Lois Eifion, sy’n astudio gradd uwch MA mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, a phedair arall. Prif enillwyr cystadlaethau perfformio Eisteddfod yr Urdd sy’n cael gwahoddiad i gystadlu ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel. Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, sef medal a’r Ysgoloriaeth o £4,000, i Huw gan Bryn Terfel.
Meddai Chris Collins, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth:
“Rwy’n falch iawn o lwyddiant Huw – llwyddiant sy’n gydnabyddiaeth o’i ddoniau arbennig. Mae’n llawn haeddu ennill. Mae ganddo lais canu sy’n unigryw; mae ganddo reolaeth wych, ond hefyd mae’n naturiol ac yn amryddawn. Mae hefyd yn fyfyriwr gwych, yn gweithio’n galed ac yn ymroddgar, ac yn cymryd rhan lawn ym mywyd y Brifysgol.
“Llongyfarchiadau hefyd i Lois Eifion, myfyrwraig o’r Ysgol Gerdd, a ddaeth mor agos at ennill hefyd.”
Ar gyfer y Gystadleuaeth, roedd rhaid perfformio rhaglen 12 munud o hyd o flaen panel o feirniaid arbenigol. Roedd rhaglen Huw yn cynnwys dehongliad o ‘O'r Dwyrain mae'r Golau’ gan Alessandro Acarletti, ‘Pan ddaw'r Nos’ gan Meirion Williams a ‘Gitâr Abruzzese’ gan Francesco Tosi.
Roedd safon y Gystadleuaeth yn uchel iawn, ond roedd y Beirniaid yn unfrydol.
Yn ôl Gavin Ashcroft, un o'r beirniaid, “Fe gawsom wledd i’r llygaid ac i’r glust.
“Roedd yn braf gweld cymaint o amrywiaeth ar y llwyfan a’r safon mor uchel – ac yn y diwedd, bu’n rhaid edrych ar bwy oedd fwyaf cyson o ran safon.
“Beth oedd yn arbennig am Huw yw bod rhyw anwyldeb yn perthyn iddo, ac mae ganddo lais melfedaidd iawn.
“Perfformiodd yn wych heno a dwi'n siŵr y bydd yn datblygu i fod yn ganwr anhygoel.”
Meddai Huw Ynyr:
“’Tri chynnig i Gymro,’ meddan nhw, ond ar fy ail gynnig y llwyddais i!”
“Roedd yn brofiad gwych perfformio, ac roedd pawb yn fwy na theilwng o’r wobr, felly mi ges i dipyn o sioc pan wnaethon nhw gyhoeddi fy enw i.
“Rydw i am gadw’r arian, a disgwyl i weld sut y bydd y llais yn datblygu, ac yna, mewn blynyddoedd i ddod, ar ôl iddo setlo, gobeithio y gallaf i fynd i astudio'r llais ymhellach.”
Nod yr Ysgoloriaeth yw meithrin talentau rhai o berfformwyr ifainc mwyaf blaenllaw Cymru a rhoi’r cyfle iddynt ddatblygu ymhellach yn eu maes. Cyn y gystadleuaeth, bydd yr wyth cystadleuydd yn cael Dosbarthiadau Meistr gan arbenigwyr yn eu maes.
Enillodd Huw Ynyr Ysgoloriaeth Rhagoriaeth werth £3,000 i astudio yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol, ac mae bellach yn y drydedd flwyddyn.
“Mi benderfynais ddod i astudio yma oherwydd bod y cwrs yn edrych yn dda ac roeddwn i’n benderfynol o astudio yng Nghymru.
Yn gynharach eleni, roedd Huw Ynyr wedi ennill y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod ryng-golegol a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae'n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau’r Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Gerdd Dant. Enillodd Huw Ynyr yr Unawd Cerdd Dant 19-25 a’r Unawd 19-25 yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Enillodd Lois Eifion yr Alaw Werin Unigol 19-25 a’r Unawd Offerynnol 19-25 yn yr Urdd, gan ddod yn gyntaf ac yn ail hefyd yng Ngwobr Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Ryng-Golegol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2012