Myfyriwr Prifysgol Bangor yn herio MTV
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor yn herio MTV ar ôl portread negyddol yr orsaf honno o’r cymoedd mewn sioe deledu realiti newydd.
Mae Osian Williams, 20, sy’n wreiddiol o’r De ac yn ei drydedd flwyddyn o astudiaeth ar gyfer BA mewn Cyfathrebu a’r Cyfryngau, wedi ymgymryd â’r dasg o greu rhaglen ddogfen er mwyn anfon neges fod y Cymoedd yn ardal brydferth a llawn golygfeydd, yn dilyn portread negyddol MTV o’r ardal yn y gyfres realiti newydd ‘The Valleys’. Mae’r rhaglen yn ran o ymgyrch gan y brodyr James a Alex Bevan.
Mae MTV wrthi ar hyn o bryd yn ffilmio'r ail gyfres o ‘The Valleys’ sydd wedi’i lleoli yng nghymoedd y De. Meddai Osian: “Roedd y modd y bu ‘The Valleys’ MTV yn ystrydebu cymoedd y De yn erchyll, a dyna a ysbrydolodd y ffilm. Rydym yn gobeithio sicrhau trigolion cymoedd y De fod ganddynt reswm dros ymfalchïo yn eu cymuned. Rydym yn gobeithio ysbrydoli pobl i greu eu cyfleoedd eu hunain yn y cymoedd.”
Mae Osian yn gobeithio unioni cam MTV trwy gynhyrchu rhaglen ddadleuol o’r enw ‘The Valleys Are Here’. Mae’r ail gyfres o’r rhaglen hon ar y gweill ar hyn o bryd, ac fe gafodd rhglen ddogfen Osian ei dangos yn y Pop Factory yn y Rhondda yn ddiweddar. Swyddogaeth Osian yw cyfarwyddo, a bwriad y rhaglen yw rhoi argraff fwy cadarnhaol am y Cymoedd a phortreadu’r bobl a’r ardal yn deg.
Meddai Osian: “Mae’r ffilm yn rhoi sylw i bobl yn y Cymoedd sy’n creu eu cyfleoedd eu hunain.”
Mae wedi gweithio gyda phobl fel yr awdur Rachel Trezise, grŵp o fenywod sy’n mwynhau rasys sglefrio, a grŵp o bobl ifanc sydd â chyfle i fynd oddi ar y strydoedd i gael profiad o fywyd fel diffoddwyr tân.
Mae’r gwneuthurwr ffilmiau Osian, sydd hefyd wedi cychwyn cwmni, SSP Media, eisoes wedi gweithio i S4C, y BBC a Pontio.
Meddai Osian: “Dewisais gychwyn cwmni oherwydd y cyfleoedd sydd ar gael ym Mangor. Mae’n wych fel y gallwn weithio gyda’r Brifysgol/ Undeb y Myfyrwyr ac yn y blaen i gynhyrchu ffilmiau ar eu cyfer. Rwy’n gredwr mawr mewn creu cyfleoedd personol yn y byd hwn.”
Mae Osian yn gobeithio graddio eleni a pharhau i wneud ffilmiau, gan obeithio dod yn gyfarwyddwr ffilmiau llwyddiannus ryw ddydd.
“Rydym yn ffilmio amrywiaeth o bethau ac i mi, dyma’r peth gorau ynglŷn â bod â’r cwmni. Rydym yn cyfarfod â llawer o bobl ddiddorol, a chawn y fraint o gynhyrchu amrywiaeth o waith creadigol sy’n seiliedig ar wahanol bethau.”
Gwyliwch rhagflas ar y rhaglen ddogfennol
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2013