Myfyriwr y gyfraith am feicio ar draws yr Iseldiroedd i gasglu arian at elusen
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor sy'n dioddef oddi wrth gyflwr genetig prin am wneud taith feicio galed 182 milltir at elusen.
Mae Christian Bolton-Edenborough, o Potters Bar yn Swydd Hertford, yn dioddef oddi wrth Lawrence Moon Bardet Biedl Syndrome, sy'n effeithio ar ei olwg ac a fydd yn ei wneud yn ddall yn y diwedd.
Mae'r cyflwr yn effeithio ar un babi ym mhob 100,000 a gall achosi symptomau eraill hefyd megis gordewdra, abnormaledd difrifol o'r arennau ac organau eraill, problemau gyda chlywed ac arogli, bysedd a bodiau ychwanegol ar y dwylo a'r traed, ac anawsterau dysgu a achosir gan ddatblygiad corfforol hwyr.
I godi ymwybyddiaeth o'r syndrom prin hwn, sy'n cael ei etifeddu, bydd y myfyriwr y Gyfraith yn ymuno â 4 o feicwyr eraill ar Ddydd Llun, 27 Gorffennaf, i feicio 182 milltir ar draws yr Iseldiroedd mewn tri diwrnod.
"Dwi'n teimlo'n gyffrous iawn ynghylch cymryd rhan yn y daith a gwneud cyfraniad o bwys i godi ymwybyddiaeth ynghylch y cyflwr yma a chasglu arian tuag at ganfod gwellhad iddo yn y dyfodol," meddai Christian, sy'n 21 oed ac a fydd yn beicio er budd y Laurence-Moon-Bardet-Biedl Society. "Dechreuais ymarfer ddechrau Tachwedd gyda'r bwriad o wella fy stamina i fedru beicio am bellterau hirach yn gyflymach. Dwi wedi llwyddo i wneud hynny drwy feicio pellterau rhwng 40 a 70 milltir a rhedeg tair i bum milltir."
Fel myfyriwr ar gwrs gradd LLB ym Mangor, mae Christian wedi wynebu rhai sialensiau o ganlyniad i'r cyflwr. "Mae methu â gweld llythrennau a geiriau'n glir oni bai eu bod yn agos iawn wedi gwneud astudio am gyfnodau hir yn anodd iawn ar brydiau, ac mae gwynder y papur mewn gwerslyfrau yn codi cur pen i mi'n aml," eglurodd Christian. "Arholiadau a rheoli amser yw'r brif sialens arall. Gyda fy ngolwg yn dirywio'n araf, mae gallu darllen a dehongli'r geiriau a senarios cwestiynau problem mewn arholiadau wedi bod yn gryn her."
Mae Uned Anabledd y Brifysgol wedi bod yn allweddol yn helpu Christian i ddod dros yr anawsterau hyn, drwy drefnu amser ychwanegol iddo mewn arholiadau, ei alluogi i fenthyca llyfrau am gyfnodau hirach a darparu papurau arholiad gyda'r testun wedi'i chwyddo. Mae hefyd yn cydnabod y gefnogaeth y mae wedi'i chael gan ei ddarlithwyr yn y gyfraith: "Mae dau aelod staff wedi bod yn arbennig o gefnogol. Y cyntaf yw Dr Yvonne McDermott-Rees a fu'n goruchwylio fy nhraethawd hir eleni. Tra oeddwn yn ysgrifennu'r traethawd hir, rhoddodd gefnogaeth a chanllawiau gwych i mi o ran fframwaith y gwaith, ond yn ogystal rhoddodd anogaeth i mi hefyd wrth i mi frwydro gyda fy nghyflwr.
"Yr ail aelod staff yw Mr Stephen Clear, fy nhiwtor personol. Ers i mi gael y diagnosis yma fis Hydref, mae wedi bod yn hynod gefnogol, gan ei gwneud yn bosibl i mi fynd i apwyntiadau gydag arbenigwr yn Llundain a gohirio arholiadau pan oedd angen."
Mae Christian wedi gwneud y gorau o'i gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau allgwricwlaidd megis project 'Cyfraith y Stryd' Ysgol y Gyfraith, a chynrychioli'r brifysgol ym Mhencampwriaeth Agored Pŵl a Snwcer Prifysgolion Cymru yn gynharach eleni, fel rhan o'r tîm cyntaf o Fangor i gyrraedd y rownd derfynol. Dywed bod y cydbwysedd hwn rhwng astudio academaidd a gweithgareddau cymdeithasol wedi ei drawsnewid i'r cyfreithiwr ifanc hyderus a welir heddiw: "Dwi wedi dod ymlaen yn rhyfeddol o ran fy hyder, gan gyflawni pethau nad oeddwn yn teimlo fyddai'n bosibl a gwneud ffrindiau oes."
Gymaint yw ei ymdeimlad newydd o hyder fel ei fod yn bwriadu dilyn cwrs Meistr yng Nghyfraith y Môr, gyda'r bwriad o fynd yn gyfreithiwr neu efallai fynd ymlaen i yrfa yn y byd academaidd.
Ei her fawr nesaf yw'r daith feicio a chyda dim ond wythnos i fynd, mae eisoes wedi mynd heibio ei darged o £300. Ond mae Christian eisiau codi pob ceiniog bosibl i LMBBS. "Bydd yr arian a godir yn cael ei ddefnyddio i helpu'r elusen yma, sy'n cael ei chyllido o ffynonellau annibynnol, i barhau i ddarparu rhwydwaith anhygoel o gefnogaeth i ddioddefwyr. Mae hyn yn cynnwys eu clinigau blynyddol ym Mirmingham a Llundain, lle mae arbenigwyr o bob maes meddygol sy'n gysylltiedig â'r cyflwr yn dod at ei gilydd i roi gofal a sylw meddygol o ansawdd uchel i ddioddefwyr.
"Mae arnynt angen adnoddau hefyd i wneud ymchwil. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw driniaeth i'r cyflwr, ond mae yna arwyddion y gellir cynhyrchu cyffur posibl wedi ei seilio ar therapi genynnau a fydd yn ei arafu."
Mae her Christian yn dechrau 27 Gorffennaf. I ddarllen mwy am ei ymgyrch neu i gyfrannu, ewch i http://www.justgiving.com/Christian-Bolton-Edenborough
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2015