Myfyriwr y gyfraith yn cipio gwobr chwaraeon
Mae Adran Hamdden a Chwaraeon Prifysgol Bangor wedi dyfarnu Gwobr Goffa Llew Rees eleni i Benjamin Pritchard, myfyriwr sy’n astudio’r Gyfraith. Bydd Ben yn graddio'r wythnos hon gyda gradd Baglor yn y Gyfraith. Triathletwr o Abertawe yw Ben, ond mae’n aelod o nifer o glybiau eraill yr Undeb Athletau hefyd, a bu’n is-gapten Clwb Hoci’r Dynion, trefnydd digwyddiadau’r Clwb Beicio Ffordd, ac yn aelod Varsity o dîm nofio Bangor.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae Ben wedi cystadlu mewn nifer o gystadlaethau, yn cynnwys Triathlon Sbrint Llanrwst 2012, lle daeth yn drydydd yng ngrŵp oedran 20-29. Hefyd yn 2012 cafodd Ben gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Triathlon Sbrint Grŵp Oedran Ewrop yn Nhwrci. Bydd yn cynrychioli Prydain yn y gystadleuaeth eto eleni.
Dywedodd Ben: 'Bydd y wobr ariannol yn help mawr tuag at gostau’r broses hyfforddi, prynu dillad ac offer arbenigol, teithio ac, yn bwysicaf oll, cystadlu.'
Mae Ben wedi gosod sawl her iddo’i hun eleni, ond ei brif nod yw gorffen yn y 50 uchaf ym Mhencampwriaethau Ewrop. Yr ail nod yw gorffen yn uchel yng nghyfres Grand Prix Cymru, gan obeithio bydd hyn wedyn yn ei alluogi i gystadlu yng Uwch-gyfres Prydain ar gyfer athletwyr elitaidd. Mae wedi gosod nifer o nodau gyda’r Undeb Athletau hefyd, yn cynnwys ennill digon o bwyntiau Beicio Prydain i gynrychioli Tîm Beicio Prifysgol Bangor mewn ras ffordd.
Meddai Ben: “Rwyf hefyd yn bwriadu datblygu a gwella fy sgiliau triathlon; defnyddio’r profiad o gynrychioli fy ngwlad i gael mwy o sylw yn y byd academaidd yn y dyfodol drwy gydnabod y cymorth a ddarperir gan Brifysgol Bangor o ran darparu cyfleusterau hyfforddi. Bydd cymorth ariannol o'r maint hwn yn mynd yn bell o ran fy nghefnogi i gyrraedd fy nhargedau, a bydd yn fy ngalluogi i gystadlu hyd eithaf fy ngallu.”
Dros y blynyddoedd mae Ben wedi gweithio'n galed i godi proffil chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor. Mae bod yn aelod o bwyllgor sawl clwb chwaraeon wedi caniatáu iddo feithrin cysylltiadau da rhwng gwahanol chwaraeon, ac annog llawer o athletwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd. Mae Ben wedi bod yn llais i’r clybiau yn rhinwedd ei swydd fel cynorthwyydd yn ymgyrch yr Undeb Athletaidd, yn gwrando ar syniadau gan aelodau'r clybiau, ac yn sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed. Mae hefyd yn cystadlu'n rheolaidd yn lliwiau Prifysgol Bangor, yn esiampl i bawb, ac mae’n diogelu enw da Prifysgol Bangor.
Mae Ben wrthi ar hyn o bryd yn sefydlu clwb triathlon yn yr Undeb Athletau. Mae'n gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o fyfyrwyr i gymryd rhan yn y gamp, ac y bydd y rhai sy'n rhedeg y clwb yn gallu defnyddio’u gwybodaeth a'u profiad i gynhyrchu athletwyr triathlon llwyddiannus newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013