Myfyriwr y gyfraith yn ennill ei hachos llys gyntaf CYN graddio
Aeth myfyriwr o Brifysgol Bangor, a ddioddefodd gwahaniaethu yn y gwaith, â'i chyn-gyflogwr i'r llys ac ennill yr achos - cyn gorffen ei gradd yn y gyfraith.
Penderfynodd Alex Gibson o Fangor astudio'r gyfraith ar ôl dioddef gwahaniaethu ar sail anabledd ac aflonyddu yn ei hen weithle.
Roedd Alex yn benderfynol o fynd â'r cwmni i'r llys ond gan nad oedd yn gallu fforddio'r ffioedd cyfreithiol, penderfynodd gynrychioli ei hun yn yr achos. Enillodd yr achos llynedd, ar ôl brwydr gyfreithiol a barodd am ddwy flynedd a hanner.
Ac yn ben ar y cwbl, bydd Alex sydd hefyd gyda dyslecsia, yn graddio o Fangor y mis yma gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gyfraith.
Dechreuodd stori Alex yn 2008 pan fu mewn damwain a achosodd anabledd i’w braich. Ar ôl nifer o lawdriniaethau roedd o'r diwedd yn gallu dychwelyd i weithio'n barhaol yn 2010. Ond yn ei gweithle newydd dioddefodd gwahaniaethu ac aflonyddu ar sail anabledd oherwydd ei hanabledd corfforol a dyslecsia. Roedd hwn yn gyfnod mor drawmatig i Alex fel yr ymddiswyddodd o'i gwaith a gwneud nifer o benderfyniadau a fyddai'n newid cwrs ei bywyd.
Roedd hi'n benderfynol o ymladd am gyfiawnder, felly penderfynodd Alex fynd â'i chyflogwyr i'r llys a gweithredu fel ei chyfreithiwr a'i bargyfreithiwr ei hun. Roedd y driniaeth wahaniaethol a ddioddefodd wedi rhoi’r awydd iddi ddysgu mwy gyda golwg ar amddiffyn ei hun a phobl eraill. Felly yn 2011, cofrestrodd ar y rhaglen LLB ddwy flynedd ym Mangor.
Roedd dechrau yn y brifysgol yn fwy o her i Alex nag i lawer o bobl eraill. Gadawodd Alex yr ysbyty ar ôl cael llawdriniaeth arloesol ar ei harddwrn ychydig ddyddiau cyn dechrau'r cwrs, ac yr oedd yn dal i ymladd ei brwydr gyfreithiol. Dewisodd gael y driniaeth hon er mwyn ceisio gwella golwg corfforol ei hanabledd. Ond llwyddodd y gefnogaeth a gafodd gan y brifysgol ei helpu i oresgyn y problemau. "Ni fyddai wedi bod yn bosibl i mi fynd i'r brifysgol oni bai am gefnogaeth y cynorthwywyr personol a drefnwyd i mi gan y gwasanaethau myfyrwyr," meddai. "Roeddwn yn mynd i ddarlithoedd gyda rhywun yn cymryd nodiadau i mi, roedd Canolfan Dyslecsia Miles y brifysgol yn prawf ddarllen fy nhraethodau ac mewn arholiadau roeddwn yn dweud yr atebion wrth ysgrifennydd. Erbyn hyn, rwy'n graddio gydag anrhydedd dosbarth gyntaf.” Mae Alex hefyd yn canmol y gefnogaeth a gafodd gan staff yn Ysgol y Gyfraith ei hun. "Mae'r darlithwyr wedi bod yn wych ac yn gefnogol, ac ar ôl mwy neu lai byw yn y llyfrgell am y ddwy flynedd ddiwethaf mae'n rhaid i mi ddweud y bu llyfrgellydd y Gyfraith, Mairwen, yn wych hefyd."
Yn wreiddiol roedd Alex wedi cofrestru mewn prifysgol arall yn 1996, ond rhoddodd y gorau iddi ar ôl methu ei blwyddyn gyntaf a pheidio â chael llawer o gefnogaeth. "Ers hynny, mae llawer mwy o ymchwil wedi ei wneud ym maes dyslecsia, ac mae'r gefnogaeth a gefais gan yr adran gwasanaethau myfyrwyr a'r tîm dyslecsia ym Mangor wedi bod yn eithriadol. Gwnaethant fy helpu i ddeall fy nghyflwr yn well nag unrhyw un arall o'r blaen, a rhoddodd yr hyder i mi gyflawni'r hyn na feddyliais oedd yn bosibl, cael gradd yn y Gyfraith.
"Dydi dyslecsia ddim yn effeithio ar ddeallusrwydd ac erbyn hyn does dim rhwystrau i gael addysg. Mae astudio ym Mangor wedi rhoi'r cryfder a'r hyder i mi wneud bron unrhyw beth."
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2013