Myfyriwr ym Mangor yn ennill gwobr gêm fideo
Mae myfyriwr yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Bangor wedi ennill gwobr o £45,000 am gêm a ddatblygodd ar y cyd wrth astudio modiwl yn y brifysgol.
Yn gynharach eleni bu Leon Gartland, sy'n dychwelyd fel myfyriwr MA, yn helpu i ddatblygu'r gêm yn ystod y modiwl 'Dylunio Gêm' a ddysgir gan y darlithydd John Finnegan.
Enillodd ei dîm cynhyrchu ddwy wobr yn y gwobrau 'Dare to be Digital', un gan noddwyr Sianel 4, ac un arall gan 'Design in Action' am botensial masnachol.
Bydd yr arian a enillwyd yn mynd tuag at ddatblygu'r gêm, o'r enw Pathos, i'w rhyddhau yn y dyfodol ar blatfform Android.
Dywedodd Leon bod y cyfuniad unigryw o fodiwlau yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau o gymorth mawr wrth ddatblygu'r gêm.
“Dysgais lawer am agweddau ar gemau yn y modiwl 'Game Design' gyda John Finnegan nad oeddwn wedi eu hystyried o'r blaen," meddai.
"Roedd y cyrsiau ysgrifennu i'r sgrin gyda Jamie Sherry a Mikey Murray wedi helpu llawer hefyd, yn arbennig gydag agweddau naratif ar y gêm.
"Roedd yr holl achlysur yn anhygoel ac roeddwn wrth fy modd gyda phob eiliad ohono, ac roedd ennill y gwobrau yn wych er nad oeddem yn disgwyl hynny o gwbl.
"Ond y peth gorau oedd cwrdd â'r timau eraill gan iddynt wneud y profiad yn un o brofiadau gorau fy mywyd.
"Roedd y timau yn dod o bob rhan o'r byd ac roeddent yn griw da fel pobl ac o ran gallu."
Dawn ac arloesi
Mae'r gêm yn bos antur isometrig 3D i ddyfeisiau symudol/llaw ac mae'n ymwneud â merch fach yn y system gofal maeth sy'n ceisio canfod ei ffordd adref.
Bwriad 'Dare to be Digital' i'w dathlu doniau newydd ac arloesi yn y diwydiant gemau fideo.
Dywedodd John Finnegan ei fod yn falch iawn o lwyddiant Leon.
"Byddaf bob amser yn ceisio pwysleisio pwysigrwydd agwedd gydwybodol a phroffesiynol at waith yn yr ystafell ddosbarth, er mwyn paratoi myfyrwyr at weithio yn y diwydiant, yn ogystal â rhoi'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnynt i addasu ac wynebu heriau wrth iddynt godi yn y math yma o amgylchedd," meddai.
"Mae'n rhoi gymaint o foddhad i weld myfyrwyr yn mynd â'r sgiliau hyn i'r gwaith, a gwelir hyn ym mhob rhan o'r ysgol astudiaethau creadigol a'r cyfryngau. Mae'n enghraifft o ddawn Leon fel cynllunydd gemau, ac yn dyst i lwyddiant yr ysgol yn gyfan."
Gellir dilyn Pathos ar Twitter yma: https://twitter.com/pathosgame
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2015