Myfyriwr yn cael ei ddewis ar gyfer Pencampwriaeth Nofio Genedlaethol
Mae Leo Johnson, myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn yn astudio Bioleg y Môr wedi ennill lle i gystadlu yn y ras 100m Arddull Rydd ym Mhencampwriaeth Genedlaethol Cwrs Byr Agored Nofio gydag Anabledd 2013, sydd i’w chynnal ym Mhwll Nofio Ryngwladol Ponds Forge yn Sheffield ar 23-24 Tachwedd 2013. Bydd y goreuon o blith nofwyr para ar draws Prydain Fawr yn cystadlu yn y digwyddiad hwn.
Dim ond yn ddiweddar y penderfynodd y myfyriwr 20 oed o Putney, de-orllewin Llundain, roi cynnig ar gystadlu yn y maes ac mae’n annog myfyrwyr eraill efo anabledd i ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon para.
Mae Leo’n esbonio:
“Dechreuais ystyried o ddifri gymryd rhan mewn chwaraeon para yn fuan wedi i mi ddechrau yn y Brifysgol. Roedd ambell i ffrind wedi sôn am y peth o’r blaen ond chymerais fawr o sylw, roeddwn yn ddigon hapus yn chwarae rygbi a chriced i’r ysgol ac i Glwb Rygbi Cymry Llundain. Ond cefais anaf i’m pen-glin, oherwydd gorwneud, a hynny’n rhannol oherwydd fy anabledd.
“Ar ôl trafod gyda’r llu o feddygon mae rhywun yn eu gweld yn rheolaidd os oes gennych anabledd, penderfynais mai nofio a rhwyfo fyddai’n fwyaf buddiol i mi yn y tymor hir. Ac yna, am y tro cyntaf, meddyliais, os gallaf gystadlu’n eithaf da yn erbyn pobl heb anabledd, yna beth allwn i gyflawni pe bawn i’n cystadlu o dan yr un amodau â phawb arall?
“Rwy’n berson cystadleuol wrth natur ac yn cael rhyw fath o ollyngdod wrth gystadlu. Rwy wedi sylwi fy mod yn perfformio’n well yn academaidd wrth gymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol. Roeddwn yn benderfynol o gael fy ngosod mewn dosbarth ar gyfer y nofio a’r rhwyfo. Ond haws dweud na gwneud. Rhois fy hun ar y rhestr aros ar gyfer dosbarthiad nofio ym mis Chwefror a chael fy nosbarthiad ar Hydref 5ed! Roedd rhwyfo’n ychydig yn symlach, dim ond 6 mis gymerodd hi.
“Felly ar 5ed Hydref cymerais ran yn fy mhencampwriaeth ranbarthol gyntaf, fel rhan o’r ‘arsylwi mewn cystadleuaeth’ cyn fy ngosod mewn dosbarth. Roeddwn wedi fy ngosod dros dro yng nghategori S9: mae deg dosbarth nofio, S1-S10 ,efo 1 ar gyfer y rhai â’r amhariad corfforol mwyaf a 10 ar gyfer y rhai â’r amhariad lleiaf. Mae rhai cystadlaethau efo trothwy amser ar gyfer ennill lle yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol Cwrs Byr, yn ddibynnol ar eich dosbarthiad, a gwelais fy mod i wedi gwneud yn ddigon da i gael lle yn y gystadleuaeth 100m arddull rydd. A bod yn onest, roeddwn i wedi gwirioni! ”
“Fy nod tymor hir yw gweld ar ba lefel galla i gystadlu yn y dyfodol. Fy nod yn y tymor byr yw cyflawni amser da yn y Cystadlaethau Cwrs Byr Cenedlaethol, yna'r cystadlaethau cwrs byr yng nghynghrair myfyrwyr BUCS. Wedyn, y prif ffocws fydd y cyfarfod Rhyngwladol Prydeinig yng Nghanolfan Chwaraeon Tollcross ym mis Ebrill. Wedi hynny does gen i ddim clem ar hyn o bryd. Rwy’n ceisio mynd un cam ar y tro.”
Dywedodd Leo am ei amser ym Mangor:
“Clywais am Brifysgol Bangor gan ychydig o ffrindiau, a dois yma i’r Diwrnod Agored a phenderfynu rhoi’r Brifysgol fel un o’m dewisiadau, a bellach dyma fi.”
“Y peth gorau am y cwrs yw’r amrediad o bynciau gwahanol yr ydym yn eu hastudio, a’r peth orau am yr ysgol yw’r awyrgylch. Mae Ysgol Gwyddorau’r Eigion yn lle cyfeillgar dros ben. Yr uchafbwynt i mi hyd yn hyn fu’r daith maes yn ystod yr haf i’r Virginia Institute of Marine Science. Roedd yn brofiad gwych.
“Tu allan i chwaraeon rwyf wedi bod yn weithgar efo Cymdeithas Endeavour ac rwyf hefyd yn Seneddwr dros Fyfyrwyr ag Anableddau’r Brifysgol. Yn gymdeithasol, rwy’n mwynhau noson allan o bryd i’w gilydd. Ond gan fwyaf, rwyf yn mwynhau treulio amser gyda’m ffrindiau da, lle bynnag y byddant neu beth bynnag yr ydym yn gwneud.”
Mae Leo, sy’n gyn-ddisgybl o Bethany School a St James Independent School for Senior Boys, yn credu mai’r peth gorau am Fangor yw lleoliad y ddinas, a pha mor agos yw hi i’r ardal naturiol wych sy’n ei hamgylchynu.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2013