Myfyriwr yn cyfrannu at gynhyrchu ffilm ar gyfer teledu ac ar gyfer y Brifysgol
Mae myfyriwr trydedd flwyddyn sy’n astudio BA mewn Cyfathrebu a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor ac sydd wedi cychwyn cwmni cyfryngau ei hun, eisoes wedi gweithio ar ffilm i’r BBC, cael ffilm ganddo wedi’i darlledu ar S4C ac wedi’i gomisiynu i gynhyrchu fideos byr i’r Brifysgol.
Daw Osian Williams sydd yn 20 oed, yn wreiddiol o Bontypridd yn Ne Cymru. Hoff ddiddordeb Osian yw cynhyrchu rhaglenni, boed yn rhai dogfen, newyddiadurol neu radio. Gan fod cymaint o ddiddordeb ganddo mewn byd y cyfryngau penderfynodd y buasai yn syniad gwych dechrau cwmni ei hun. Enw ei gwmni ydi SSP Media.
Esboniodd Osian: “Nes i ddewis dechrau cwmni oherwydd y cyfleoedd sydd ar gael ym Mangor. Mae'n wych sut allwn ni weithio gyda’r Brifysgol/Undeb Myfyrwyr a mwy i gynhyrchu ffilmiau iddyn nhw. Rydw i’n gredwr mawr mewn creu cyfleon eich hunan yn y byd yma.”
“Rydyn ni’n ffilmio amrywiaeth o bethau a dyna i fi, yw’r peth gorau. Rydyn ni’n cwrdd â llawer o bobl ddiddorol ac mae gennym ni’r fraint o gynhyrchu amrywiaeth o waith creadigol wedi seilio ar wahanol bethau.”
Cafodd Osian fwrsariaeth o £500 gan y Brifysgol am astudio ei gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg ac roedd hyn yn hwb mawr iddo ac yn gyfle iddo brynu ei offer ei hun. Ychwanegodd Osian,
“Awgrymodd fy nghariad i mi ddefnyddio’r arian at rywbeth fydd o werth i mi trwy ddysgu yn y cwrs. Felly nes i brynu camera. Ac ers hynny rydw i a SSP Media wedi dechrau defnyddio offer proffesiynol. Ein prif gamerâu ar hyn o bryd yw 2 Canon 7D’s ac un Canon 5Dii.”
Yn ddiweddar cafodd Osian y fraint o fod yn rhan o griw cynhyrchu rhaglen dogfen o’r enw Fy chwaer a Fi (S4C)/Beautiful Lives (BBC). Meddai Osian: “Roedd gweithio gyda chyfarwyddwr mor brofiadol â Mei Williams yn help mawr i fi. Mae Mei yn dysgu nifer o bethau i mi ac yn helpu fi datblygu yn y maes.”
Mae Osian a chriw SSP Media hefyd wedi cydweithio gyda’r Uned Recriwtio Myfyrwyr i gynhyrchu dau fideo ar gyfer darpar fyfyrwyr er mwyn rhoi blas iddynt o fywyd myfyriwr ym Mangor. Cliciwch ar yr isod i wylio’r fideos:
Mae’r cwmni hefyd yn gweithio’n agos gyda Pontio, sydd yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau ac adloniant yn y Brifysgol ac yn yr ardal leol. Ychwanegodd Osian: “Mae SSP Media yn gweithio yn agos gyda Phontio. Rydyn ni’n creu ffilm fer o nifer o’r digwyddiadau gwych sydd yn cael ei drefnu ganddyn nhw. Mae gweithio gyda Phontio yn helpu SSP Media yn fawr iawn i ddatblygu.”
Mae gan SSP Media cytundeb gyda UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) i gymryd lluniau safon uchel o’r noson Clwb Cymru yn Academi. Dywedodd Osian: “Dyma oedd cytundeb cyntaf SSP Media ac rydw i yn ddiolchgar iawn am gymorth UMCB. Rydw i yn gwneud set DJ yn ystod yr un noson hefyd felly maen help mawr i fi gael mwy o aelodau yn SSP Media i neud y lluniau!!”
Mae hwn yn fersiwn wedi’i gwtogi o erthygl gan Cari Ann Roberts, myfyrwraig yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau. Erthygl lawn yma.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012