Myfyriwr yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor yn cystadlu i ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni.
Bydd Dion Davies, 19, sy’n fyfyriwr ail flwyddyn o ardal Castell Newydd Emlyn, i’w weld yn cystadlu Nos Sul, Hydref 6ed ar S4C. Bydd yna hefyd raglen hanner awr yn cyflwyno’r holl gystadleuwyr am 9.30pm Nos Fercher, Hydref 2il ar S4C.
Dywedodd Dion, cyn ddisgybl Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi: “Mae'n brofiad anghygoel, ac rwy'n teimlo'n hynod o freintiedig i fod yn ran o'r gystadleuaeth yma. Mae pawb wedi bod yn gefnogol iawn, ac rwyf yn ddiolchgar iawn am hyn.
Mae’r Ysgoloriaeth flynyddol yma werth £4,000 ac yn cael ei rhoi i enillydd un o gystadlaethau unigol dan 25 oed Eisteddfod yr Urdd.
Gwahoddir yr enillwyr i gystadlu am yr Ysgoloriaeth mewn noson arbennig a gynhelir ar ffurf cyngerdd yn dilyn yr Eisteddfod. Ar y noson gofynnir i bob cystadleuydd berfformio rhaglen 12 munud o hyd a bydd panel o feirniaid arbenigol yn penderfynu pwy fydd yn derbyn yr Ysgoloriaeth.
Nod yr Ysgoloriaeth yw meithrin talentau rhai o berfformwyr ifanc mwyaf blaenllaw Cymru a rhoi’r cyfle iddynt ddatblygu ymhellach yn eu maes. Cyn y gystadleuaeth bydd yr wyth cystadleuydd yn cael Dosbarthiadau Meistri gan arbenigwyr yn eu maes.
Dywedodd Dr Angharad Price, Darlithydd yn yr Ysgol Gymraeg: “Mae Dion yn aelod amlwg a gweithgar o gymuned myfyrwyr Ysgol y Gymraeg ac rydym yn ymhyfrydu'n fawr yn ei lwyddiant mewn cystadleuaeth o safon mor uchel. Pob lwc iddo!”
Yn y gorffennol, mae Manon Wyn Williams, myfyrwraig PhD ym Mangor, a Huw Ynyr Evans, myfyriwr Cerdd, wedi ennill yr Ysgoloriaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2013