Myfyriwr yn helpu i drawsnewid gwefan Sain
Mae un o fyfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Bangor yn trawsnewid gwefan y cwmni cerddoriaeth, Sain, fel rhan o Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (Knowledge Transfer Partnership) rhwng y Brifysgol a’r cwmni.
Mae Steffan Thomas, 22, o Goedpoeth ger Wrecsam yn gyn ddisgybl Ysgol Morgan Llwyd. Graddiodd o Brifysgol Bangor gyda gradd ddosbarth gyntaf mewn Cyfathrebu a’r Cyfryngau cyn mynd ymlaen i astudio ar gyfer M.A. mewn Astudiaethau Ffilm a’r Cyfryngau. Mae Steffan nawr yn astudio yn rhan amser ar gyfer ei M.A. wrth weithio i Sain, yn ogystal a helpu dysgu rhai o fodylau’r flwyddyn gyntaf ar raddau cyfryngol yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau.
Meddai Steffan, “Mi rydw i’n gweithio gyda Sain mewn partneriaeth â’r Brifysgol ar gynllun KTP sydd a’r bwriad o ail-leoli Sain yn strategol drwy adolygu ei weithgareddau busnes a thechnoleg i gadarnhau ei safle blaenllaw ym marchnadoedd cerddoriaeth Cymru.
“Mae’r farchnad cerddoriaeth wedi newid yn fawr yn y blynyddoedd diwethaf. Er mwyn i Sain goroesi yn y farchnad yma mae’n rhaid i’r model gwerthu a marchnata newid. Mi rydw i’n edrych yn fanwl ar gynllun busnes y cwmni ac ar y model o werthu ein cynnyrch trwy’r we.
“Ers i mi ddechrau gweithio ar y project fis Hydref 2009 mi rydw i wedi ail gynllunio’r wefan ac wedi ail strwythuro’r data fel ein bod ni’n gallu dosbarthu ein cerddoriaeth ar ffurf ddigidol i Amazon, iTunes, 7Digital a nifer o gwmnïau dosbarthu eraill ar hyd y byd. Mi fydd y cyfnod nesaf o’r prosiect yn edrych ar systemau marchnata Sain.”
Mae Steffan yn falch iawn o’r cyfleoedd y mae o wedi eu derbyn drwy weithio ar y project.
Meddai, “Mae’r gwaith yn cynnig sialens newydd bob dydd. Doeddwn i ddim yn gwybod gymaint â hynny am farchnata na gwefannau pan gychwynnais gyda Sain ond ar hyd y flwyddyn ddiwethaf mi rydw i wedi cael y cyfle i ddysgu llawer o dan arweiniad y Brifysgol.
“Rydw i’n astudio ar gyfer cymhwyster sy’n cyfateb â gradd mewn rheolaeth business a chyllid trwy system y KTP ac mi rydw i hefyd wedi cael y cyfle i deithio i America ac i Lydaw a mis yma mi rydw i’n mynd i Ffrainc gyda Sain i hyrwyddo’r cwmni mewn ffair cerddoriaeth.”
Ychwanegodd, “Mi rydw i’n falch iawn o bob cyfle dwi wedi cael gan y Brifysgol. Cefais swydd o fewn y cyfryngau syth ar ôl graddio gyda’r cwmni teledu Chwarel. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy i barhau i wneud gwaith ymchwil o fewn y diwydiant. Mi rydw i’n gobeithio cychwyn a’r PhD mis Medi nesaf yn ymchwilio i effaith dosbarthu digidol ar gwmnïau cyfryngol lleiafrifol.”
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2011