Myfyriwr yn lansio syniad busnes
Mae myfyriwr aeddfed ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi graddio gyda Gradd Dosbarth Gyntaf yn gobeithio lansio’r cynllun a ddyfeisiodd ar gyfer ei broject blwyddyn olaf yn rhyngwladol yn ystod y misoedd nesaf.
Astudiodd Shem ap Geraint, 34, o Bennal ger Machynlleth Dylunio Cynnyrch. Yn ogystal â derbyn gradd dosbarth cyntaf, enillodd gwobr Lloyd Jones am ei lwyddiant academaidd. Ar gyfer ei broject blwyddyn olaf datblygodd dyfais o’r enw’r ‘Rocket Life Ring,’ sy’n fersiwn modern o’r gwregys achub sy’n gallu cael ei daflu’n fwy cywir ac yn bellach na’r gwregys traddodiadol. Enillodd Shem rownd Bangor o gystadleuaeth Syniadau Mawr Santander ac mae o nawr yn gobeithio lansio’r gwregys achub ar y farchnad.
Meddai Shem, “Rwy’n falch iawn fy mod yn graddio. Roedd yn waith caled ond roedd o werth o! Rwy’n fyfyriwr aeddfed ac yn hunan cyflogedig sydd wedi rhoi’r hyblygrwydd i mi weithio o gwmpas fy astudiaethau, ond roedd yn rhaid i mi fod yn drefnus iawn.”
Yn ystod ei gwrs cymrodd Shem ran mewn projectau yn cynnwys mynychu cyfarfodydd gyda’r fyddin arbennig/S.A.S. a chyflwyno’i wregys achub i banel o arbenigwyr yn rownd Bangor o’r gystadleuaeth Syniadau Mawr Santander.
Eglurodd Shem pam ei fod wedi penderfynu ailwampio’r gwregys achub traddodiadol, “O brofiad roeddwn yn ymwybodol nad ydy gwregysau achub traddodiadol bellach yn cyd-fynd a’r hyn sydd ei hangen, felly penderfynais ddylunio cynnyrch gall ei daflu’n llawer iawn pellach. Mae hi wedi cymryd deg mis i mi ddatblygu’r gwregys ac rwyf wedi bod yn cydweithio a chwmni sy’n dylunio siacedi achub. Rwy’n gobeithio lansio’r ddyfais yn rhyngwladol yn y ddau fis nesaf a’r gobaith yw fy mod yn gweithio yn y diwydiant dylunio, yn ddelfrydol ar fy liwt fy hun.
“Rwyf hefyd yn gobeithio gwneud gradd Feistr, o bosib o fewn marchnata neu gynllunio adeiladau cynaliadwy.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2011