Myfyriwr yn llunio syniad buddugol yng Nghystadleuaeth Syniad Busnes Byddwch Fentrus 2012 Prifysgol Bangor
Mae Dale Spridgeon, myfyriwr ôl-radd yn Ysgol y Saesneg, wedi ennill gwobr o £200 ar ôl dod yn fuddugol yn y gystadleuaeth flynyddol Syniadau Busnes a drefnir gan y Project Byddwch Fentrus, rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Gofynnwyd i fyfyrwyr ddisgrifio syniad busnes gwreiddiol mewn dim ond 200 o eiriau ac egluro sut roedd eu syniad yn ymarferol, arloesol ac unigryw.
Bwriad y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i israddedigion ac ôl-raddedigion fynegi eu syniadau mentrus mewn ffordd gryno a chael eu cydnabod am eu creadigrwydd a’u hysbryd entrepreneuraidd.
Cafodd y syniadau eu beirniadu gan staff gyrfaoedd, cyflogadwyedd a phrojectau menter, a chan entrepreneuriaid lleol.
Disgrifiodd y myfyriwr buddugol wasanaeth crochenwaith a chrefftau y gellid ei ddefnyddio ar gyfer therapi amgen, datblygiad personol ac i adeiladu timau.
“Fel hobi dwi wrth fy modd yn gweithio efo clai a llunio potiau ar olwyn y crochenydd. Mae’n hwyl, yn therapiwtig ac yn ffordd wych o ymlacio ar ôl diwrnod prysur,” meddai Dale.
“Daeth syniad i mi y gallai amrywiaeth o bobl o wahanol gefndiroedd fanteisio o wneud crochenwaith a chrefftau, ond nad oes ganddynt y cyfleusterau, y sgiliau na’r ddarpariaeth briodol,” ychwanegodd.
Meddai Cydlynydd y Project Byddwch Fentrus, Lowri Owen: “Mae aelodau sy’n dychwelyd i’r panel beirniadu yn cytuno bod y cynigion i’r Gystadleuaeth Syniadau Busnes wedi dal i wella flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac nid oedd eleni’n eithriad.
“Mae’r gystadleuaeth yma, ynghyd â llawer o ddigwyddiadau menter eraill rydym wedi’u cynnal ym Mhrifysgol Bangor, wedi dangos y cyfoeth o greadigrwydd a dawn entrepreneuraidd sydd i’w chael ymysg ein myfyrwyr.”
Mae’r Gystadleuaeth Syniadau Busnes yn ddim ond un ymysg llawer o gystadlaethau, cyflwyniadau a digwyddiadau a ddarperir gan y Project Byddwch Fentrus i gefnogi myfyrwyr sydd eisiau bod yn fwy entrepreneuraidd neu sy’n meddwl dechrau busnes.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.bangor.ac.uk/b-enterprising.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2012