Myfyriwr yn rasio yn erbyn y cloc i achub un o’r gwyfynod mwyaf prin yng Nghymru
Mae myfyriwr yn byw mewn ambiwlans wedi ei addasu mewn coetir yn Sir Fynwy wrth iddo rasio yn erbyn y cloc i achub un o’r gwyfynod mwyaf prin yng Nghymru.
Mae pob eiliad yn cyfrif i Joel Walley, myfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, sy’n byw’n galed yng Nghoed Hendre, mewn ymgais i fod mor agos â phosibl i’r Siani ddolennog, sydd bellach yn byw’n rheolaidd mewn dim ond dau fan yng Nghymru.
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chadwraeth Pili-pala Cymru wedi cynnal gwaith rheoli brys yn y coetir dros y ddau aeaf diwethaf er mwyn gwella cynefin naturiol y gwyfyn hardd (â’r enw anffodus, Drab Looper, yn Saesneg).
Fel rhan o’i waith ymchwil MSc, mae Joel yn cymharu amgylchiadau yn y coetir sy’n cael ei reoli gan CC Cymru â chadarnle arall y rhywogaeth sydd dros y ffin yn Swydd Henffordd.
Bydd yn treulio’r haf yn chwilio yn y mieri a’r rhedyn mewn ymgais i daflu goleuni ar hoff fannau magu’r gwyfyn, a fydd yn hanfodol o ran eu goroesi. Dywedodd Richard Gable, rheolwr ardal leol CC Cymru, ei bod yn ymddangos bod y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud gan Gadwraeth Pili-pala Cymru i wneud y coetir yn fwy deniadol i’r Siani ddolennog wedi helpu am y tro.
Dywedodd, "Mae ein coetiroedd yn darparu cynefinoedd hanfodol ar gyfer llawer o rywogaethau ac rwyf wrth fy modd bod y Siani ddolennog wedi cael ei chanfod yng Nghoed yr Hendre. "Mae’r math hwn o wyfyn yn hynod brin yng Nghymru, felly mae’n rhaid i ni wneud popeth er mwyn sicrhau bod ei hoff gynefin yn cael ei reoli a’i gadw." Bydd gwaith Joel yn hanfodol o ran darganfod pa amodau sydd orau gan y Siani ddolennog, fel y gall CC Cymru a Chadwraeth Pili-pala Cymru gynnal gwaith rheoli pellach y gaeaf hwn i achub y gwyfyn fel rhywogaeth sy’n magu yng Nghymru.
Dywedodd Russel Hobson, pennaeth cadwraeth Cymru ar gyfer Cadwraeth Pili-pala Cymru, "Mae Joel wedi derbyn yr her hon gyda brwdfrydedd. Ar adegau, prosiectau myfyrwyr fel hyn yw’r unig ffordd i ddeall anghenion cadwraeth rhywogaethau prin. "Mae Cadwraeth Pili-pala yn ffodus i ganfod myfyrwyr mor ymroddgar â Joel i wneud y gwaith pwysig hwn. "Mae hyn yn oed yn byw mewn ambiwlans sydd wedi ei addasu er mwyn bod mor agos â phosibl i’r safleoedd a gwneud y mwyaf o bob eiliad o dywydd heulog." Pennawd: Joel yn cymryd seibiant yn ei ambiwlans.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2011