Myfyrwraig Busnes arobryn yn graddio
Bydd cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd y Trallwng yn dathlu ei llwyddiant yn seremoni raddio Prifysgol Bangor yr wythnos hon.
Bydd Susan Jeffreys, 21, o'r Trallwng, yn graddio gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cyfrifeg a Chyllid yr wythnos hon. Yn ogystal, fe ddyfarnwyd Gwobr Goffa Craig Williams am y perfformiad gorau mewn unrhyw radd israddedig o fewn Ysgol Business Bangor.
Meddai Susan: "Dewisais Bangor dros unrhyw brifysgol arall oherwydd fe wnaeth cyfeillgarwch a chymwynasgarwch y staff wneud i mi benderfynu'n derfynol ar Brifysgol Bangor. Mae’r llety a gynigir gan Brifysgol Bangor o safon uwch na phrifysgolion eraill i mi roi cais iddynt, roedd hyn rhan bwysig yn fy mhenderfyniad.
"Yr agwedd orau o'r cwrs oedd y dewis o fodiwlau. Mae'r modiwlau craidd yn ymwneud yn uniongyrchol â'ch gradd, ond gallwch hefyd ddewis o amrywiaeth o fodiwlau dewisol: er enghraifft cymerais rhai mewn marchnata a rheoli. Mae'r hyblygrwydd hwn yn gwneud y cwrs yn ddiddorol ac yn rhoi amser i benderfynu pa feysydd pwnc yr hoffech barhau i archwilio.
"Un o'r uchafbwyntiau yw bod deunydd cwrs y graddau sy’n gysylltiedig â chyfrifo yn ymwneud â rhai cymwysterau proffesiynol cyfrifyddu, sy'n caniatáu i fyfyrwyr wneud cais am eithriadau ar gyfer yr arholiadau proffesiynol hyn os ydynt yn dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg.
"Mae'r holl staff yn Ysgol Busnes Bangor yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt. Maent bob amser ar gael os ydych yn ansicr am unrhyw beth ac yn hawdd cysylltu trwy e-bost.
"Yr wyf yn awr yn gobeithio dod o hyd i gyflogaeth mewn cwmni cyfrifeg ble alla i gwblhau hyfforddiant i fod yn gyfrifydd cymwysedig. Gwnaeth cymryd rhan mewn seminarau a thiwtorialau rhoi'r hyder yr wyf ei angen ar gyfer cyflogaeth."
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013