Myfyrwraig Cerddoriaeth yn cipio Medal Prif Gyfansoddwr yr Urdd
Llongyfarchiadau i Lois Eifion Jones, myfyrwraig ôl-radd cerddoriaeth o Benisarwaun, ger Caernarfon, ar ennill Medal y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Yn cystadlu o dan y ffugenw Branwen, enillodd Lois y fedal am ei darn corawl theatrig ar gyfer darllenwyr, unawdwyr, côr a cherddorfa. Seiliwyd y darn buddugol ar ddarn o farddoniaeth gan Cen Williams am chwedl Branwen. Daeth hi’n ail yn yr un gystadleuaeth hefyd!
Mae Lois Eifion newydd gwblhau gradd MA mewn cerddoriaeth yn canolbwyntio ar gyfansoddi, a bydd yn graddio’n ddiweddarach yr haf yma. Enillodd yr unawd cân werin ac unawd offerynnol yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd. Roedd hyn yn ei gwneud yn deilwng i gystadlu ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel, a daeth yn ail yn y gystadleuaeth honno. Nid yw’r Eisteddfod drosodd i Lois eleni eto chwaith. Bydd hi’n cystadlu mewn dwy gystadleuaeth ddydd Sadwrn, a gall fod yn gymwys unwaith eto i gystadlu ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel eto eleni.
Daeth Lois i’r brifysgol yn wreiddiol gyda’r bwriad o ganolbwyntio ar ei pherfformio, ond mae wedi cael ei denu’n raddol at gyfansoddi.
Dywedodd ei thiwtor ôl-radd a darlithydd mewn cyfansoddi, Dr Owain Llwyd: "Rydym yn falch iawn yma yn yr Ysgol Gerdd am lwyddiannau Lois yn ystod ei chyfnod gyda ni fel myfyriwr. Mae’r wobr hon yn ychwanegu at ei chasgliad cynyddol o wobrau! Mae Lois yn gerddor aml-dalentog sydd wedi rhagori wrth gyfansoddi mewn sawl arddull, o gerddoriaeth i ffilmiau a’r cyfryngau hyd at weithiau corawl a cherddorfaol ar raddfa fawr. Llongyfarchiadau gwresog iddi am ennill gwobr mor bwysig.”
Meddai Lois: "Mae fy nheulu wedi bod yn ddylanwad mawr arna i, a hoffwn ddiolch hefyd i staff Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor am eu cefnogaeth, anogaeth ac ysbrydoliaeth."
Meddai’r beirniad, Euros Rhys Evans: "Mae holl ddrama'r chwedl i'w weld yn y gerddoriaeth sydd mewn nifer o adrannau gwrthgyferbyniol. Mae ambell adran drawiadol iawn, er enghraifft ymbiliad Branwen wrth iddi ganu 'Awel Erin, chwyth fy neigryn dros y don.' Ceir yma gyfanwaith artistig ac effeithiol."
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2013