Myfyrwraig Nyrsio Ddawnus yn Graddio
Ar ôl gwaith caled a dyfalbarhad, bydd myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor yn graddio gyda gradd dosbarth cyntaf Baglor Nyrsio - Anableddau Dysgu yr wythnos hon.
Bu Georgina Hobson, 29, o Gyffordd Llandudno, sy'n gyn-ddisgybl o Ysgol John Bright, yn gweithio fel tiwtor drama yn America mewn gwersyll haf i bobl ag anghenion arbennig. Bu'n gwneud hynny am ychydig flynyddoedd cyn gorfod dychwelyd adref i gefnogi'i theulu a gofalu am ei mam. Treuliodd Georgina beth amser wedyn yn cefnogi dyn gydag MS a'i hanogodd i barhau â'i haddysg, ac awgrymodd un o nyrsys ardal y dyn y dylai Georgina ddilyn gyrfa fel nyrs anableddau dysgu.
Dywedodd Georgina: "Dewisais astudio ym Mangor oherwydd bod gan y brifysgol enw da am hyfforddi nyrsys, a bod nifer o bobl yn argymell y brifysgol.
“Roedd fy nghyfnod ym Mangor yn un difyr iawn. Bûm ar nifer o leoliadau gwaith a fu'n help i gryfhau fy sgiliau nyrsio. Bûm yn helpu'r brifysgol i gael cwricwlwm newydd er mwyn cymeradwyo nyrsys, ac roeddwn ar y panel ar gyfer hyn. Canolbwynt hyn oedd atgyfnerthu'r dysgu rhyngbroffesiynol, ac rwy'n credu fod y brifysgol wedi gwneud hyn yn arbennig o dda.
"Euthum i gynhadledd anableddau dysgu Positive Choices ar gyfer myfyrwyr nyrsio, a oedd yn canolbwyntio ar rwydweithio a rhannu gwybodaeth, sgiliau ac ymchwil yn genedlaethol. Y llynedd, gyrrais grŵp o chwech o bobl i Gaeredin. Roedd hwn yn uchafbwynt oherwydd bod ein ffrind yn cyflwyno yno.
"Hefyd, bûm yn cynnal gweithdai ar gyfer rhwydwaith anableddau dysgu, awtistiaeth ac anhwylderau niwroddatblygol (LDAN) oedd yn canolbwyntio ar sut y gallwn ddefnyddio drama fel cyfrwng i gynnwys pobl gydag anableddau fel rhan o'r ymchwil.
Un peth allweddol y canolbwyntiais arno oedd sut y gallwn wneud lleoliadau gofal iechyd sylfaenol yn hawdd mynd iddynt i bobl ag anableddau dysgu.
"Mae cymaint o uchafbwyntiau wedi bod. Roeddwn yn ffodus iawn o fod mewn criw mor allblyg. Roedd fy nghyfoedion i gyd yn bobl anhygoel, ac rwy'n lwcus iawn o fod wedi gwneud ffrindiau oes. Roedd ein teithiau i ffwrdd yn wych; aethom i gynadleddau yn Llundain, Swydd Hertford a Chaeredin.
"Fy mhrif uchafbwynt oedd y trip i Gaerdydd ble enillais wobr Myfyriwr y Flwyddyn 2012 gan y Coleg Nyrsio Brenhinol. Roedd yn brofiad aruthrol. Roedd llawer o gystadleuaeth yn fy ngharfan i yn unig, ac felly roedd cael fy newis fel enillydd allan o holl ganghennau myfyrwyr nyrsio Cymru yn ogoneddus. Rwy'n ffodus iawn o fod wedi cael fy enwebu ac o fod wedi ennill rhywbeth fydd yn aros gyda mi am weddill fy mywyd.
"Rwy'n gobeithio parhau i weithio fel nyrs, yn y gymuned ac mewn gwasanaethau i gleifion. Hoffwn hefyd gefnogi myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu'u hyder ym maes nyrsio, a chynnig dulliau amgen o ddysgu iddynt. Yn y pen draw, hoffwn barhau â'm haddysg, gan wneud PhD efallai."
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013