Myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn dathlu graddio er cof am ei mhâm diweddar
Rhyddhad, hapusrwydd, ofn a thristwch - dyma rhai o'r emosiynau y bydd myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor yn teimlo yn ystod ei seremoni graddio'r wythnos hon.
Bydd cyn-fyfyrwraig o Goleg Harlech, Fflur Emlyn, 37, o Forfa Bychan, Porthmadog yn graddio'r wythnos hon gyda gradd BA Seicoleg. Yn teimlo'n falch iawn o'i gamp, ni all Fflur aros am ei diwrnod graddio fel y gall hi ddathlu gyda'i phlant, tad, partner a’i ffrindiau gorau - hebddynt, ni fyddai wedi cyflawni'r freuddwyd hon.
Meddai Fflur: "Ar ôl gorffen coleg, roeddwn yn gweithio i Dafydd Wigley AS am tua thair blynedd ac yna es ymlaen i weithio i Harlech Food Services am 12 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn gwelwyd bod canser y fron ar fy mam, ac yr wyf yn hynod agos ati. Derbyniodd nifer o driniaethau ac roedd yn ymddangos i fod yn gwella. Ychydig o flynyddoedd ar ôl ei diagnosis, wnes i ddarganfod fy mod yn feichiog ac fe gefais fachgen bach. Ni weithiodd y berthynas gyda thad fy mab ac yna yr oedd yn fam sengl.
"Ychydig cyn archwiliad pum mlynedd fy mam, darganfuwyd bod y canser wedi lledaenu i asgwrn ei chefn. Fe gwffiodd y canser am dros ddwy flynedd ond collodd ei brwydr ar ôl iddo ledaenu i’w iau. Roedd ei marwolaeth wedi deffrodd awydd ynof i newid fy mywyd, ag arweiniodd at i mi ddychwelyd i addysg. Mynychais Gwrs Mynediad yng Ngholeg Harlech er mwyn cael mynd ymlaen i addysg uwch.
"Rydwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn seicoleg ac yn gwybod fy mod eisiau gyrfa a fyddai'n gwneud gwahaniaeth a helpu eraill. Ar ddechrau fy ngradd fe wnes i ddyweddïa â fy mhartner tymor hir ac, ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf, darganfyddais fy mod yn feichiog. Arweiniodd hyn i mi orfod cael genedigaeth cesaraidd ar frys yn ystod y mis cyntaf i mewn i fy ail flwyddyn. Penderfynais i barhau gyda fy ngradd a gyda fy swydd, does dim rhaid dweud bod yn anodd, ond roedd gen i deulu i gefnogi a morgais i’w dalu.
"Yn ystod fy ail flwyddyn, roedd fy mhartner yn dioddef o iselder clinigol, arweiniodd hyn at i ni benderfynu byw ar wahân nes iddo wella. Rydym yn awr yn trafod symud yn ôl i mewn gyda'i gilydd.
"Dewisais astudio ym Mangor gan ei fod yn agos, ond yn bennaf gan fy mod wedi darganfod bod yr Ysgol Seicoleg yn eithriadol. Hefyd, argymhellwyd y Brifysgol i mi gan ddarlithydd seicoleg yng Ngholeg Harlech.
"Rwyf wedi cael fy nerbyn i astudio gradd Meistr mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol yn yr Ysgol Seicoleg a fydd, rwy’n gobeithio, yn arwain at waith fel therapydd ymddygiad cymwys. Rwyf hefyd â diddordeb mawr mewn cwnsela fel gyrfa yn y dyfodol."
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013