Myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn ennill Gwobr Myfyrwyr Rhyngwladol 2011
Mae’r fyfyrwraig Almaeneg Ilka Johanna Illers, sydd yn ei hail flwyddyn o radd Gwyddorau Eigion, wedi ennill gwobr Myfyriwr Rhyngwladol Cymru'r flwyddyn 2011 fel rhan o gystadleuaeth gan y Cyngor Prydeinig.
Fe enillodd Johanna y teitl drwy ysgrifennu llythyr am ei bywyd yma ym Mhrydain fel myfyrwraig a bydd nawr yn paratoi i gystadlu am y teitl Myfyrwraig Rhyngwladol y Flwyddyn 2011 yn Llundain ym mis Mawrth. Mae hi yn un o ddeuddeg a fydd yn wynebu panel o feirniad cyn mynd ymlaen i’r seremoni wobrwyo.
Dywedodd Johanna: “Nid oeddwn yn disgwyl ennill ac roeddwn bron wedi anghofio am y wobr felly pan cefais y neges roedd yn sypreis gwych! Mae’n anrhydedd mawr ennill drwy Gymru ac mae’n golygu llawr i mi, yn enwedig gan fod fy llythyr am bwnc sydd wedi bod yn bwysig i mi ers peth amser. Rydw I yn edrych ymlaen at y seremoni wobrwyo yn Llundain ac at gyfarfod myfyrwyr rhyngwladol eraill.”
Roedd Johanna yn un o fwy na 1,200 o fyfyrwyr, o 118 o wledydd, a oedd wedi ymgeisio am y wobr. I ennill y wobr roedd yn rhaid i bob myfyriwr ysgrifennu llythyr personol adref a oedd yn datgelu eu teimladau, eu holl weithgareddau gwirfoddol a chymdeithasol, a oedd yn dangos sut yr oedden yn gwneud y mwyaf o’u hamser yma ym Mhrydain.
Yn ei llythyr, fe esboniodd Johanna ei gwaith gyda phrosiect ‘Big Give’ Prifysgol Bangor - prosiect a oedd yn gyfrifol am hel 80 o fagiau o ddillad a bwyd ar gyfer elusennau digartref a siopau elw da yma ym Mangor. Roedd hefyd wedi ysgrifennu am ei chyfraniad tuag at sefydlu gardd organic gymdeithasol ar gyfer myfyrwyr Bangor.
Bydd Johanna yn derbyn gwobr o £1,000 ac fe fydd yr enillydd teitl Myfyriwr Rhyngwladol 2011 yn Llundain yn derbyn £2,000.
Dywedodd Martin Davidson, prif weithredwr Cyngor Prydain, fod y llythyrau adref yn ysbrydoledig a theimladwy iawn. “Mae’r myfyrwyr yma wedi gwneud y mwyaf o’i hamser ym Mhrydain ac meant yn cyfrannu llawer i’r gymdeithas yn gyffredinol. Rydym wrth ein boddau yn nodi eu llwyddiant.”
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2011