Myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn mynd a busnes lleol o nerth i nerth
Byddai rhedeg busnes yn her fawr i'r rhan fwyaf ohonom, ond bu myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn gwneud hynny ac astudio at ei gradd ar yr un pryd. Graddiodd Rebecca Orford, sy'n 21 oed ac yn dod o Lanfairpwll, gyda BSc Cadwraeth Amgylcheddol yr wythnos hon.
Dywedodd Rebecca: "Rwy'n dod o deulu hunangyflogedig, ac rwyf wastad wedi gwerthfawrogi pwysigrwydd llwyddo mewn meysydd yr ydych yn gryf ynddynt, a bod yn ymwybodol o'ch galluoedd yn ogystal â meysydd y mae gennych le i wella ynddynt. O oedran cynnar iawn roedd gennyf ddiddordeb ysol yn yr awyr agored iach, a threuliais oriau dirifedi yn yr ysgol farchogaeth leol lle cefais waith yn y stablau yn 11 oed.
"Roedd fy nheulu wastad yn annog fy nghariad at yr awyr agored drwy deithiau diwrnod a gwyliau i Ardal y Llynnoedd a Chymru, ac yn 2008 symudodd y teulu i fferm ddefaid ar Ynys Môn. Ar ôl mynychu'r chweched dosbarth yn Ysgol David Hughes mentrais i'r Brifysgol Amaethyddol Frenhinol yn Cirencester lle enillais gymwysterau fel trwydded llif gadwyn. Ond roedd Cymru'n fy ngalw yn ôl ac ar ôl clywed mor dda oedd Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor, penderfynais wneud cais, ac ymunais â'r cwrs yn yr ail flwyddyn. Mae'n lle hyfryd i astudio cadwraeth amgylcheddol, gydag ysblander gogledd Cymru o'i gwmpas.
"Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol roedd gennyf swydd ran-amser ar benwythnosau yn James Pringle Weavers yn Llanfairpwll. Yn haf 2012 teithiais i Efrog Newydd i ddysgu marchogaeth mewn gwersyll haf am 10 wythnos, ac roedd hwn yn brofiad anhygoel a chefais brofiad o ddysgu pobl o alluoedd gwahanol. Pan ddychwelais o America, deuthum ar draws y cyfle i redeg busnes lleol, sef caffi a siop anrhegion o fewn canolfan arddio.
"Er fy mod ar fin dechrau ar fy mlwyddyn olaf, sef blwyddyn bwysicaf fy nghwrs yn y brifysgol, roeddwn yn credu y gallwn ymdopi â'r ddau beth, ac roedd fy rhieni yn fy annog. Dechreuais redeg y busnes ym mis Hydref, a dychwelais i'r brifysgol yn yr un mis. Roedd rhaid imi gydbwyso fy amser yn ofalus iawn, a sicrhau fod gennyf staff i weithio yn fy lle pan oedd rhaid imi fynd i'm darlithoedd. Roedd yn brofiad blinedig gweithio saith diwrnod yr wythnos yn y caffi a gwneud fy ngwaith coleg ar ben hynny. Roeddwn i'n aml yn eistedd yn y caffi wrth fwrdd llawn gwaith cwrs, yn gorfod neidio ar fy nhraed i wneud coffi bob deng munud.
"Roedd cwsmeriaid yn aml yn galw heibio i weld sut roedd pethau'n mynd, ac roedd yn hyfryd cael eu cefnogaeth. Treuliais aml i noson hwyr yn y llyfrgell yn astudio ac yn cwblhau gwaith cwrs, ond roeddwn yn benderfynol o lwyddo, a chadwodd hynny fi i fynd. Wrth i'r cyfrifoldebau yn y brifysgol gynyddu tua diwedd y flwyddyn academaidd bu'n rhaid imi gyflogi mwy o bobl i weithio yn fy lle. Roedd hyn yn golygu mwy o gyfrifoldeb, ond mwynheais hyfforddi pobl newydd yn fawr iawn.
"Pan ddechreuais i gadw'r caffi, roedd newydd gael sgôr o dair seren gan yr awdurdod lleol, ond gan fod y busnes wedi newid dwylo roedd hyn yn rhoi cyfle i gael archwiliad newydd. Yn yr un wythnos lle cefais radd 2:1 cefais wybod hefyd fod y caffi wedi derbyn sgôr o bum seren, sef y sgôr uchaf bosib. Roeddwn wrth fy modd fod fy ymdrechion dros y flwyddyn ddiwethaf yn cael eu gwerthfawrogi a theimlais yn falch iawn fy mod wedi llwyddo heb laesu dwylo yn y brifysgol nac yn y caffi, yn enwedig wedi i lawer o bobl ddweud na fyddai'n bosib ennill gradd a chadw caffi ar yr un pryd.
Yn fy mlwyddyn gyntaf ym Mangor, dilynais gwrs rhan-amser City & Guilds mewn Rheoli Stablau a Marchogaeth yn ychwanegol at fy astudiaethau. Cynhelid y cwrs yn fy nghanolfan farchogaeth leol ac roedd yn ychwanegiad gwych at fy ngwaith coleg gan ei fod yn fy nghadw'n brysur yn llenwi taflenni gwaith, yn casglu tystiolaeth, ac yn cymryd rhan mewn diwrnodau ymarferol bob dydd Mawrth. Roeddwn hefyd yn aelod o Glwb Marchogaeth Prifysgol Bangor.
"Er fy mod wedi gweithio'n galed yng Nghymru ac wedi sefydlu fy musnes dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf yn awyddus i fynd yn ôl i ogledd orllewin Lloegr. Ar ôl cwblhau proses recriwtio rwyf wedi cael cynnig swydd yn Fairbanks Environmental fel dadansoddwraig data a byddaf yn dechrau arni ym mis Medi. Byddaf yn gweithio gyda thîm yn monitro lefelau tanwydd mewn gorsafoedd petrol ar draws y byd ar gyfer cwmnïau dosbarthu mawr fel Shell a BP. Byddwn yn monitro er mwyn gallu canfod os yw tanwydd yn cael ei ddwyn, ac os yw tanciau'n gollwng, sy'n gallu llygru dŵr daear a niweidio'r amgylchedd."
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013