Myfyrwraig PhD o Fangor yn cael ei dewis fel rhan o’r Ddirprwyaeth yn y Gemau Olympaidd Arbennig 2011.
Mae Niamh-Elizabeth Reilly, 27, myfyrwraig PhD o fewn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei dewis fel rhan o’r Ddirprwyaeth ar gyfer y Gemau Olympaidd Arbennig yn Athens ym mis Mehefin.
Mae Niamh yn un o ddeuddeg o fyfyrwyr fydd yn cyflwyno canlyniadau eu hastudiaethau PhD.
Pwrpas y Ddirprwyaeth yw tynnu sylw at waith y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ac i ehangu symudiad y Gemau Olympaidd Arbennig a hefyd i wella’r astudiaethau o gwmpas anabledd deallus.
Dywedodd Niamh: “Mae yn anrhydedd i mi gael fy newis, yn enwedig gan mai dim ond deuddeg o fyfyrwyr a gafodd eu dewis dros y byd. Y fi yw’r unig aelod o’r ddirprwyaeth o Brydain ac Iwerddon hefyd.”
Mae Niamh hefyd yn cael y cyfle i wylio’r gemau a’r digwyddiadau i gyd yn Athens. Maent hefyd wedi gofyn iddi fod yn rhan o grŵp o ysgolorion a fydd yn cymryd rhan mewn sesiynau ychwanegol a fydd yn canolbwyntio ar fannau newydd o ymchwil o fewn anabledd deallus. Mi fydd hyn o bosib yn helpu siapio agenda’r Gemau Arbennig yn y dyfodol.
Ychwanegodd Niamh: “Fel hyfforddwr ac athletwr rydw i yn edrych ymlaen yn fawr iawn i wylio’r digwyddiadau i gyd ac mi fyddai yn cefnogi timau Prydain ac Iwerddon. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at fynychu'r ‘sgrinio athletwyr iach’ a dysgu mwy am y broses a’i goblygiadau.”
Ar hyn o bryd mae Niamh, yn wreiddiol o Co. Kildare yn Iwerddon, yn ymchwilio gallu symud unigolion gyda Syndrom Downs fel rhan o ysgoloriaeth wedi ei hariannu gan KESS ar gyfer y staff o fewn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon a Mencap Cymru.
Dywedodd hi: “Rydw i yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am y cynllunio a’r ymchwil sydd wedi ei seilio ar y Gemau Arbennig ac rydw i yn bwriadu dod a’r wybodaeth yma yn ôl i’r Ysgol ac i Mencap.
“Rydw i yn hynod frwd am ymchwil o fewn y maes anabledd deallus a chwaraeon. Mae gwybod y bydd fy ngwaith ymchwil i gyda’r potensial i helpu unigolion yn fy ysbrydoli ac rydw i yn mwynhau bob munud.
“Un o fy uchafbwyntiau yn ystod fy amser ym Mangor oedd sefydlu a hyfforddi tîm pêl-droed Mencap Cymru ac yna mynd a’r tîm i gystadlu yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn Genefa yn 2010.
“Yn y dyfodol rydw i yn gobeithio parhau gyda fy ymchwil yn y maes ac mi fyswn wrth fy modd yn gweithio mwy gyda’r Gemau Olympaidd Arbennig a’r Paralympics fel ymchwiliwr, seicolegwr chwaraeon a hyfforddwr.”
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2011