Myfyrwraig Prifysgol Bangor yn derbyn Medal Ebola
Yn dilyn Sierra Leone yn cael ei ddatgan yn glir o’r feirws Ebola, mae myfyriwr PhD o Brifysgol Bangor wedi derbyn medal mewn cydnabyddiaeth o'i dewrder ac ymroddiad wrth fynd i'r afael a’r argyfwng yng Ngorllewin Affrica.
Mae Helena Robinson, 29, o Guernsey, yn fyfyriwr ôl-raddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol a derbyniodd y Fedal Ebola yn dilyn cyfnod o bum wythnos yn Sierra Leone ym mis Rhagfyr 2014.
Ar ôl clywed apêl ar gyfer staff cymorth meddygol ar BBC Radio 4, ymchwilio Helena ar-lein a gwelodd bod Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi sefydlu labordai diagnosteg yn Sierra Leone ac yn brin o weithwyr dros gyfnod y Nadolig. Gwnaeth gais i wirfoddoli a chafodd ei recriwtio i ganolfan driniaeth sy’n cael ei reoli gan elusen Achub y Plant yn Kerry Town.
Esboniodd Helena: "Roeddwn wedi synnu mod i am derbyn y fedal hon, ond mae'n braf cael cydnabyddiaeth am wneud rhywbeth defnyddiol, er fy mod yn siŵr bod llawer o bobl yn gwneud gwaith clodwiw nad ydynt wedi cael eu cydnabod ar ei gyfer.
"Ein gwaith ni oedd profi samplau - gwaed neu swabiau, ar gyfer Ebola a malaria sy'n rhannu llawer o'r un symptomau. Er bod hyn yn broses gweddol syml, roedd angen canolbwyntio i wneud yn siŵr ein bod yn aros yn ddiogel ac nid oedd unrhyw croeshalogi rhwng samplau. Roedd y gwres hefyd yn broblem gan fod rhai o'r adweithyddion roeddem yn eu defnyddio'n yn sensitif i wres, felly roedd angen i ni weithio'n gyflym. Roedd yn heriol iawn ond yn werth chweil ac rwy'n falch iawn fy mod wedi gwirfoddoli.
"Yn y cyfamser rwyf wedi bod yn ôl i Sierra Leone yng nghanol mis Medi am gyfnod o 4 wythnos i wneud mwy o'r un gwaith. Mae'r achosion yn araf yn dod i ben, ond mae llawer o samplau i'w profi fel y gall pob achos gael eu hynysu a rhwystro unrhyw drosglwyddiad pellach."
Dywedodd Dr Edgar Hartsuiker, goruchwyliwr PhD Helena: "Ar hyn o bryd mae Helena yn gwneud ei phrosiect ymchwil PhD yn Sefydliad Ymchwil Canser Gogledd-orllewin sydd wedi’i gyllido gan Tenovous Cancer Care. Mae hi'n fyfyriwr rhagorol ac mae'n wych gweld ei bod wedi bod yn gallu gwneud defnydd o’i sgiliau labordy ar gyfer achos mor dda, rydym yn falch iawn ohoni."
Cyflwynwyd y fedal i Helena gan yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor, a dywedodd: "Yn anhunanol, mae Helena wedi rhoi ei hun mewn perygl yn yr ymdrech i achub bywydau'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan un o'r epidemig mwyaf dinistriol ein cenhedlaeth. Mae'r Brifysgol yn falch iawn o Helena ac rydym yn falch bod ei hymdrechion yn cael eu cydnabod drwy ddyfarnu’r fedal hon."
Mae llywodraeth y DU yn bwriadu cyhoeddi Medal Ebola i dros 3,000 o bersonél milwrol a sifil a deithiodd o'r DU i'r rhanbarth i atal lledaeniad y clefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2015