Myfyrwraig prifysgol bangor yn lansio llyfr gyda cherddorfa llysiau
Bongos Melon, ysgydwyr pupur, ffidlau cennin a casŵau moron fydd ychydig o’r offerynnau cerddorol a grëwyd ac a fydd yn cael eu chwarae gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Nant y Coed yn eu Ffair Nadolig ar noson yr 2ail o Ragfyr. Bydd y perfformiad yn lansio e-lyfr newydd rhyngweithiol i blant o’r enw ‘Arnie Williams yn siarad â Llysiau!’
Wedi’i ysgrifennu gan Angie Roberts, awdures y gyfres deledu ‘Jini Mê’ a enillodd wobr BAFTA Cymru, mae’r llyfr yn stori Gymraeg ddoniol a chyfoes sy’n cynnwys Sain Cerddorfa Lysiau, cyfarwyddiadau ar sut i wneud Chwibanau Moron, Trympedi Coesau Nionod, Drymiau Melon – a llwyth arall o offerynnau llysiau gwirion!
Bu Angie’n astudio’n ddiweddar ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o brosiect dysgu’n seiliedig ar waith Elevate. Meddai Angie, “Mynychais gyrsiau marchnata a chyfryngau cymdeithasol a’m cynorthwyodd gyda marchnata’r llyfr newydd hwn. Mae marchnad lyfrau plant yn gystadleuol iawn felly roedd y cynghorion a ddysgais wrth astudio ar brosiect Elevate wedi fy helpu’n fawr a bûm yn defnyddio’r aseiniadau i gynhyrchu cynlluniau marchnata a chynlluniau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer lansio’r llyfr.”
Mae Angie yn frwd ynglŷn ag annog pobl ifanc i ddarllen ac mae ‘Arnie’ wedi’i gynllunio i gysylltu â’r mwyaf cyndyn o’r darllenwyr ifanc. Mae’r awdures wedi gweithio gyda’r cerddor a’r cyfansoddwr, Neil Browning, sy’n gweithio yng Nghaernarfon, ac sy’n un arall o fyfyrwyr Elevate, i greu trac sain i’r gerddorfa lysiau. Mae hi hefyd wedi cydweithio gydag Efa Dyfan, artist o Lanrug, a weithiodd gyda phlant ysgol i gynhyrchu darluniau i’r llyfr.
“Rydym wrth ein bodd fod cyrsiau Elevate wedi bod yn gymaint o gymorth i Angie. Mae’r cyrsiau wedi eu cynllunio i gydgysylltu disgyblaeth academaidd â defnyddioldeb ymarferol, felly mae’n ardderchog gweld fod Angie wedi rhoi popeth a ddysgodd ar waith”, meddai Nia Morgan o brosiect Elevate.
Gellir llwytho i lawr “Arnie Williams yn siarad â Llysiau!’ o Siop iBooks am bris arbennig o £2.99. Ar wahân i fod yn stori dda iawn i’w darllen, mae hefyd yn cynnwys Llyfr Lloffion o Ddyfeisiadau i blant wneud eu hunain e.e. Doliau Afal Gwrth Ddrewdod, Symudyn Planed Pong, Gwersylloedd Llyngyr, Bwytai Adar, Persawr Petalau Rhosynnau ac, o ie, cyri llysieuol blasus eithriadol!
Dewch o hyd i fwy am Angie Roberts a’i storïau ar www.blackstarandmonkey.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2014