'Myfyrwraig y Flwyddyn' yn cyrraedd y Brifysgol mewn steil!
Mae myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd ei neuadd breswyl mewn steil mewn Fiat Panda newydd sbon - ei gwobr am ennill cystadleuaeth Myfyriwr y Flwyddyn ei sir!
Daeth Amy Mason, 18, o Ferthyr Tudful i'r brig yng ngwobrau 'Myfyriwr y Flwyddyn' sy'n cael eu noddi ar y cyd gan Rhondda Cynon Taf a Griffin Mill Garages. Roedd Amy, sydd yn gyn brif ferch Ysgol Gyfun Rhydywaun, ymysg 18 o gystadleuwyr o bob ysgol uwchradd o fewn y sir.
Mae Amy bellach yn mwynhau bywyd yn Neuadd John Morris-Jones ym Mangor ble mae hi'n astudio Cymraeg a Ffrangeg. Daeth y newyddion ei bod hi wedi ennill y wobr yn dipyn o sioc iddi, "Doeddwn i wir ddim yn disgwyl ennill, roedd yn dipyn o syrpreis o ystyried pa mor gryf oedd y myfyrwyr eraill yn y gystadleuaeth," meddai.
Enwebodd pob ysgol uwchradd o fewn Rhondda Cynon Taf un disgybl ar gyfer y wobr, sy'n cydnabod llwyddiant rhagorol o fewn tri maes: safon academaidd, gweithio gyda'r gymuned a gwaith gwirfoddol.
Doniau cerddorol Amy a'i hymroddiad i helpu hosbis plant Tŷ Hafan wnaeth argraff ar y beirniad. Yn delynores dalentog, perfformiodd Amy i'r Tywysog Siarl yn nigwyddiad pen-blwydd 10 mlynedd Tŷ Hafan.
Meddai Amy, "Mae mam wedi bod yn gweithio i Dŷ Hafan ers iddo agor, a dyna sut wnes i ddechrau gweithio gyda'r sefydliad. Rwyf wedi bod yn gwirfoddoli dros yr hosbis ers y saith mlynedd diwethaf a gan fy mod i'n chwarae'r delyn, meddyliais i 'pam ddim defnyddio'r sgil yna i godi arian at achos da?' Rwy nawr yn rhoi canran o bopeth dwi'n ennill drwy berfformio i'r hosbis."
Mae Amy nawr yn edrych ymlaen at ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol ac yn mwynhau byw yn Neuadd JMJ. "Dwi wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd yn barod ac yn setlo mewn yma'n grêt. Mae'n wych cael car ac fe wnaiff o'n sicr wneud o'n haws i mi fynd yn ôl adref af gyfer y gwyliau!"
Mae Amy'n gobeithio ymuno a cherddorfa'r Brifysgol pharhau i berfformio yn ystod ei chyfnod ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2010