Myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor yn defnyddio’i swyddogaeth newydd i ysbrydoli eraill i wneud gwaith gwirfoddol
Mae myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, Ashlee Prince, wedi cael ei dewis i arwain Rhwydwaith Arweinwyr Cymunedol Ifanc Points of Light Cymru ar ôl i'w hymroddiad hirdymor i wirfoddoli wneud argraff ar drefnwyr y wobr.
Mae arweinwyr Points of Light yn wirfoddolwyr unigol eithriadol – pobl sydd yn gwneud newid yn eu cymunedau. Bob dydd o’r wythnos mae’r Prif Weinidog yn cydnabod gwirfoddolwr ysbrydoledig gyda'r wobr Daily Point of Light. Mae Points of Light wedi bod yn gweithio gyda phrifysgolion ar draws y DU i recriwtio myfyrwyr sy'n gwirfoddoli sy’n cael hyfforddiant yn Swyddfa'r Cabinet ac a fydd cyflwyno eu gwaith yn 10, Stryd Downing ym Mehefin 2016.
Mae Ashlee, sy’n fyfyrwraig Seicoleg yn ei thrydedd flwyddyn, wedi cyffroi oherwydd y cyfleoedd a gaiff drwy fod yn rhan o gynllun Points of Light. Dywedodd “Byddaf yn defnyddio'r swyddogaeth hon i ysbrydoli pobl eraill i ymwneud â gwirfoddoli a helpu eraill oherwydd credaf ei fod yn beth anhygoel i fod yn rhan ohono". Mae hi eisoes wedi derbyn hyfforddiant yn Swyddfa'r Cabinet ac mae'n edrych ymlaen at fwrw ymlaen gyda’r swyddogaeth.
Mae Ashlee, 20, o Nantwich yn Swydd Gaer, wedi gwirfoddoli gyda GMB ers ennill lle ar broject poblogaidd Hergest yn ei blwyddyn gyntaf. Mae'n parhau i wirfoddoli yn Uned Hergest, yr uned iechyd meddwl yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, bob wythnos. Yn y flwyddyn academaidd hon, bydd Ashlee hefyd yn arwain grŵp o 14 o wirfoddolwyr sy'n ymweld â'r uned ar nosweithiau Mercher yn ogystal â rhoi o'i hamser i wirfoddoli ar broject yn gweithio yn hostel prawf trwyddedig Tŷ Newydd yn Llandygai.
Dywedodd Ashlee: “Uchafbwyntiau Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor yw fy mod wedi gwneud cymaint o ffrindiau newydd ac wedi cael profiad o helpu pobl, profiad na fyddwn i byth wedi ei gael yn unman arall. Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor wedi fy helpu i fod yn berson gwell drwy helpu pobl eraill a byddwn yn argymell gwneud gwaith gwirfoddol i unrhyw un.”
Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor yn adran o fewn Undeb y Myfyrwyr sy'n rheoli 35 o wahanol brojectau gwirfoddoli cymunedol ac yn cynnig dros 700 o gyfleoedd i fyfyrwyr Prifysgol Bangor wirfoddoli yn ystod pob blwyddyn academaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2016