Myfyrwraig yn cynorthwyo ar gyfres rhaglenni Dyma Fi ar S4C
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cael cyfle gwych yn ddiweddar i weithio ar gyfres teledu ar gyfer S4C gyda’r nod o lunio portread gonest o fywydau pobl ifanc Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae Shân Pritchard, sydd eisoes wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, wedi bod yn gweithio ar gyfres o raglenni mewn partneriaeth a chwmni cynhyrchu teledu, Cwmni Da fel rhan o’i gradd Meistr.
Mae prosiect cyffrous ‘Dyma Fi’ yn gyfres aml-blatfform sy’n datgelu canlyniadau holiaduron a ddosbarthwyd i bobl ifanc ledled Cymru. Roedd yr holiadur yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, megis diddordebau, profiadau ac yn arbennig eu harferion technolegol, sydd o ddiddordeb mawr i ymchwil Shân sy’n ymdrin â’r Gymraeg yn y chwyldro digidol. Prif ddyletswydd Shân oedd dadansoddi’r data’n deillio o’r holiaduron i ddarganfod ystadegau difyr sy’n sylfaen i’r gyfres. Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei harwain gan Gomisiynydd Plant Cymru, yn dodi pwyslais ar ddinistrio ystrydebau negyddol a hyrwyddo delwedd gadarnhaol o ieuenctid Cymru.
Dywed Shân; “Dwi wedi bod yn hynod o ffodus o gael y profiad gwych hwn o weithio mewn maes mor gyffroes. Roedd yn gyfle gwych i allu gweithredu dulliau ymchwil y gwyddorau cymdeithas mewn modd ymarferol a phwrpasol o fewn byd gwaith.”
Yn ôl Siwan Haf, Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr gyda Chwmni Da: “Cefais y syniad am raglen deledu o geisio darganfod pwy ydi Cymry ifanc heddiw trwy greu holiadur anferth iddyn nhw yn holi eu barn, ond roedd hyn yn golygu cael cymorth arbenigwyr, felly dyma droi at Brifysgol Bangor.”
“Shân Pritchard, myfyrwraig ymchwil gyda’r Brifysgol, drwy gynllun KESS ddadansoddodd data'r holiaduron a ddaeth i law yn sgil ymateb i dros 1,000 o atebion disgyblion ysgolion uwchradd amrywiol dros Gymru. ‘Doeddwn i ddim yn eiddigeddus o waith Shân, ond roedd yn rhan hanfodol o’r rhaglen gan mai hi ddadansoddodd y canlyniadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn, a welir o fewn y gyfres.”
Mae dal posib i Gymry ifanc rhwng 15 ac 18 oed barhau i gymryd rhan yn yr holiadur anferth hwn trwy ymweld â www.dymafi.tv. Mae’r gyfres yn rhan o ‘Tymor Dyma Fi’ sy’n cychwyn darlledu ar Dachwedd 17 am 7.55pm a 8.25pm, ac yn nos weithiol drwy’r wythnos.
Cyllidir ysgoloriaeth ymchwil Shân Pritchard dan Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS). Mae KESS yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe'i cyllidir KESS yn rhannol gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, mae KESS yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi’u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd). Mae elfennau’r Meistri Ymchwil a PhD wedi’u cyfuno â rhaglen hyfforddi mewn medrau uchel eu safon, gan arwain ar Gymhwyster Ôl-radd mewn Datblygu Sgiliau. Bydd KESS yn parhau tan 2014, ac yn darparu 400+ o leoedd PhD a Meistr ar draws Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2014