Myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Bangor yn gweithio gyda menter gymdeithasol leol i hyrwyddo datblygu cynnyrch gwyrdd
Mae'r cwmni Tŷ Gwydr ym Mangor yn disgrifio ei hun fel canolfan adnoddau cymunedol annibynnol sy'n gweithio i sicrhau dyfodol cynaliadwy. Menter gymdeithasol leol yw Tŷ Gwydr Cyf a sefydlwyd 30 mlynedd yn ôl i godi ymwybyddiaeth am faterion gwyrdd a newid hinsawdd, ac fe'i disgrifiwyd fel 'y ganolfan rwydweithio ffurfiol gyntaf ym Mhrydain'. Mae gwefan masnachu newydd wedi'i datblygu o'r enw ‘eBuyGreen’ a ddatblygwyd ar y cyd rhwng Tŷ Gwydr a'r ddau gyfarwyddwr, Chris Walker a Xuejiao Li (Jojo). Yr ethos sylfaenol yw cael safle lle gall cwsmeriaid gael cynnyrch organaidd sy'n werth da am arian y gellir ymddiried ynddynt eu bod yn ddilys o ran bod yn wyrdd. Yn bwysicach na hyn hyd yn oed yw creu cymuned o bobl sydd â meddylfryd gwyrdd i symud ymlaen â'r athroniaeth hon. Dim ond yn ddiweddar y rhoddwyd y wefan ar-lein ac mae'n dal i gael ei datblygu ond gellir gweld proffiliau’r staff ac athroniaeth y cwmni ar y cyswllt hwn - http://www.ebuygreen.co.uk/pages/team-presentation. Mae'r unigolion sy'n gysylltiedig yn dod o wahanol gefndiroedd academaidd a diwylliannol ac maent i gyd yn dod â'u harbenigedd unigol i'r grŵp.
Dywedodd Bogdan Pop, myfyriwr Ewropeaidd sydd wedi graddio'n ddiweddar o'r Ysgol Fusnes 'Rydw i'n helpu'r tîm trwy ymgynghori a chefnogi’n ymarferol, a hefyd mewn gwaith gweinyddol cyffredinol. Rydw i'n wir yn mwynhau cydweithio'n agos gydag aelodau eraill o'r tîm'
Roedd y dosbarthiadau meistr a gynhaliwyd bob blwyddyn gan Byddwch Fentrus ac a hwyluswyd gan Chris Walker yn defnyddio eBuyGreen fel sefyllfa go iawn. Meddai Chris Walker am y broses, "Roedd y broses rith wir hon yn galluogi myfyrwyr i gymryd rhan yn y sefyllfa hon a symud o fyd academaidd i broses o ddysgu i fod yn ymgynghorwyr". Ymunodd llawer o’r myfyrwyr â'r gymuned eBuyGreen trwy eu cysylltiad â'r dosbarthiadau meistr hyn a gweithdai eraill Byddwch Fentrus ac a roddodd yr ysbrydoliaeth gyntaf iddynt a'r cyfleoedd i rwydweithio yn arbennig. Bwriad y dosbarthiadau meistr oedd amrywio gweithgareddau'r Tŷ Gwydr i gynnwys gwefan yn gwerthu nwyddau o werth gwirioneddol i'r amgylchedd. Yn deillio o'r dosbarthiadau hyn oedd cynllun busnes a ffurflen gais am gyllid o £70k. Roedd y grŵp yn sylweddoli bod cyfle gwirioneddol i greu swyddi - y bwriad yw y bydd unrhyw swydd a gaiff ei chreu o'r broses yn ceisio naill ai gyflogi neu is-gontractio rhai sydd eisoes yn gweithio ynddi. Cafodd y myfyrwyr hynny a bu'n ymwneud yn effeithiol â'r broses fynd ar interniaeth ac maent yn cael profiad gwaith gwerthfawr. Mae llwyddiannau'r myfyrwyr hyn yn dyst i'r ffaith y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau menter fod yn ddechrau ar daith dyngedfennol.
I gael rhagor o wybodaeth am Tŷ Gwydr Cyf ewch i'w prif wefan: http://www.tygwydr.com
Mae'r rhaglen Byddwch Fentrus wedi ymrwymo i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau menter ac mae'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i gynnal gweithgareddau drwy Ganolbwynt Rhanbarthol Gogledd Orllewin Cymru a'r Rhaglen Cymorth Menter.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Awst 2014