Myfyrwyr arwain yn dysgu gan feistr
Roedd yn bleser gan yr Ysgol Cerddoriaeth groesawu’r arweinydd byd-enwog (sydd hefyd yn Gymrawd Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor), Owain Arwel Hughes, i Fangor yn ddiweddar, i arwain dosbarth meistr i fyfyrwyr. Cafodd pum myfyriwr lwcus, o fyfyriwr israddedig ym mlwyddyn 1 hyd at fyfyriwr ôl-raddedig blwyddyn olaf, gyfle i arwain tair Dawns Slafonig gan Dvořák, a hynny dan lygaid barcud Dr Hughes.
Meddai Catherine Linney un o’r myfyrwyr arwain, “Roedd Owain Arwel Hughes yn llawn anogaeth, a dangosodd imi sut yr oedd modd i arweinydd reoli ar fwy na thempo yn unig; yr arweinydd sy’n gyfrifol am yr holl sain!”
Roedd Nicholas Hardisty yn un arall o’r myfyrwyr, ac yntau hefyd yn cyfarwyddo ensemble Cerddoriaeth Gynnar y Brifysgol. “Bu gweithio gydag Owain yn brofiad gwirioneddol wych ac yn agoriad llygad. Gyda mân newid yn unig o ran ystum weledol, dangosodd imi sut i ffrwyno unrhyw chwaraewyr sydd ar gyfeiliorn – rhywbeth a fyddai, o’r blaen, wedi cymryd amser ymarfer ychwanegol imi ei unioni”.
Aelodau Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol oedd y testunau arbrawf ar gyfer y digwyddiad, a dysgasant hwythau lawer gan ein harbenigwr gwadd. Roedd y Gerddorfa, sy’n cynnwys aelodau o’r gymuned leol yn ogystal â myfyrwyr a staff o’r Brifysgol yn ei chrynswth, yn arbennig o falch pan gytunodd Dr Hughes i’w harwain ei hun ar ddiwedd y dosbarth meistr.
Meddai Dr Chris Collins, Pennaeth Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, “Rydym yn hynod falch o gael budd o garedigrwydd ein Cymrodyr Er Anrhydedd. Mae Owain ymysg yrarweinwyr mwyaf profiadol yn y byd, ac roedd y gwahaniaeth yng ngallu ein myfyrwyr i arwain yn amlwg ar unwaith!”
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2013