Myfyrwyr Astudiaethau Creadigol yn mynychu Gŵyl Ffilmiau yn LA
Roedd Frances Malpass, 21, o’r Wirral, sydd wedi graddio o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wythnos yma, yn ddigon lwcus i gael y cyfle i fynychu Gŵyl Ffilmiau yn LA gyda’i chyd-fyfyriwr Paco McGrory, i ddangos eu ffilm fer yn yr ŵyl LifeFest.
Roedd y ffilm, The Melancholy Nature of Magnetic Fields, a ysgrifennwyd gan Brian Stewart, yn rhan o fodiwl Ymarfer y Cyfryngau ac wedi ei greu gan Fran, Paco, Nicola Hamon a Carys Drennan.
Am ei hymweliad I LA, dywedodd Fran: “Roedd yn teimlo yn afreal – hon oedd y tro cyntaf i mi ymweld ag LA ond mi wnaethom gyfarfod pobl groesawgar iawn ac roedd yr Ŵyl yn anhygoel. Roedd yna ffilmiau o dros y byd i gyd yn cael eu dangos ac roedd yn agoriad llygaid gweld sut yr oedd pobl yn dehongli’r un thema. Mi wnes i fwynhau bob eiliad.
“Fe ddaeth y ffilm yn ail yn y categori ffilmiau byr dramatig. Roedden wedi cynhyrfu am gael gwahoddiad ond roedd bod yn ail hefyd yn fonws!
“Dim ond Paco a minnau aeth i LA gan mai dim ond yr wythnos cynt y gwnaethom ddysgu ein bod yn cael ein cynnwys. Roedd mor fyr rybudd ond yn lwcus mae gennym rieni a Neiniau cefnogol (a chenfigennus!) iawn felly roedd yn bosib i ni fynd.”
Ar ei diwrnod graddio, dywedodd Fran: “Mae graddio heddiw yn deimlad ffantastig. Mae yn rhywbeth rydym i gyd wedi bod yn edrych ymlaen ato ers tair blynedd ac mae’r diwrnod wedi cyrraedd! Mae yn ffordd anhygoel o ddangos pa mor galed rydym wedi gweithio ac mae’n wych cael ei rannu gyda phawb oedd yna yn mynd trwyddo gyda chi. Mae pawb yn teimlo’n falch iawn ond hefyd ychydig yn drist - mae pob dim yn newid ar ôl heddiw.”
Am ei chwrs, ychwanegodd: “Roeddwn i yn ansicr am fynd i’r Brifysgol pan roeddwn yn gwneud cais ar ôl fy Lefel A - roeddwn i eisiau mynd i rywle nad oedd rhy bell o adre ond eto’n ddigon pell i mi gael bod yn annibynnol. Roeddwn wedi clywed pethau gwych am Fangor ac mae’r lleoliad mor brydferth, ond roeddwn yn ansicr pa faes o’r cyfryngau yr oeddwn eisiau astudio. Pan glywais fod y cwrs Astudiaethau’r Cyfryngau yn gadael i mi drio pob dim ac wedyn canolbwyntio ar yr pethau oeddwn yn mwynhau fwyaf roeddwn yn gwybod mai dyma’r cwrs i mi.
“Yn ystod fy amser ym Mangor rydw i wedi bod yn aelod o’r Gymdeithas Ffotograffiaeth a BEDS (sef grŵp theatr) ac rydw i wedi mwynhau’r ddau ac maent wedi rhoi cyfle i mi ddefnyddio fy nychymyg ac mi ddysgais lot.
“Wrth gwrs mai LA oedd uchafbwynt fy amser ym Mangor, ond roedd yna adegau o fewn y cwrs a oedd yn arbennig iawn, ac adegau yn ystod fy ail flwyddyn yn y modiwl Theatr yn y Gymuned pan ddaeth cyfarwyddwr o Ysgol Ddramâu Llundain i fy ‘sgowtio’ - roedd hynny’n anhygoel!”
Ar hyn o bryd, mae Fran and Paco yn gweithio ar ffilm fer o’r enw ‘Dark Road’ ar gyfer y llywodraeth a fydd yn cael ei ddangos mewn ysgolion. Mae ganddynt hefyd blaniau I wneud ffilm arall wedi ei ysgrifennu gan Paco ac efallai ffilm arall wedi ei ysgrifennu gan Brian Stewart.
Am y dyfodol, dywedodd Fran: “Ar hyn o bryd rydym eisiau gorffen y ffilmiau yma, eu hyrwyddo a’u dangos. Ar ôl llwyddiant y ffilm diwethaf, pwy a ŵyr be all ddigwydd. Ar ôl hynny, dwi ddim yn siŵr, ond dwi wedi dysgu o fod ym Mangor bod rhaid i chi ddilyn beth rydych chi yn fwynhau. Os oes gennych nwyd am rywbeth yna pwy a ŵyr be allwch gyflawni.
“Rydym hefyd yn disgwyl clywed gan Ŵyl Ffilm yn Toronto ac un neu ddau arall, felly rydym yn croesi’n bysedd.”
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2011