Myfyrwyr Bangor yn creu cysylltiadau gyda busnesau lleol
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn manteisio ar gysylltiadau cryf y Brifysgol gyda busnesau lleol. Bu’r cwmni twrisiaeth, Celticos, a leolir yn y Felinheli, yn gweithio’n agos gyda staff a myfyrwyr Bangor i ddarparu cynnwys amlieithog ar gyfer eu gwefan yn ogystal â chyflogi myfyrwyr i alluogi’r cwmni i ddarparu pecynnau hollol addas ar gyfer ymwelwyr.
Sefydlwyd y cwmni ddwy flynedd yn ôl gan y Rheolwr-Gyfarwyddwr Alwyn Griffith ac mae’n cynnig teithiau unigryw o amgylch gogledd Cymru gan gynnig i ymwelwyr gysylltiad cryf gyda’r bobl leol a’r diwylliant. Dywedodd Alwyn,
“Rydym yn gweithio gyda nifer o gwmniau i gyfoethogi’r profiad i’n cwsmeriaid ond mae’r berthynas sydd gennym gyda staff a myfyrwyr y Brifysgol yn hynod o werthfawr i’r cwmni. Rydym wedi medru manteisio’n fawr ar sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr Bangor i ddatblygu ac ehangu ein busnes fel ein bod yn cynnig rhywbeth unigryw a chyffrous.”
Mae Kayla Jones o Asheville, Gogledd Carolina yn astudio Ysgrifennu Proffesiynol a Chreadigol. Mae Kayla yn frwd am ysgrifennu yn ymwneud a theithio ac ar hyn o bryd mae ganddi swydd breswyl efo Celticos yn rhoi iddynt oleuni pellach ar beth yn union mae myfyrwyr sydd yn dod i’r ardal am y tro cyntaf, eisiau ei weld. Dywedodd,
“Rwyf yn awyddus i ddysgu sut mae rhedeg teithiau, sut mae marchnata cwmni teithio a chreu a chynnal gwefan. Cefais gyfweliad gan Alwyn i wneud yn siwr mai fi oedd y person gorau i’r swydd ac rwyf rwan yn ei helpu i ddatblygu teithiau ar gyfer myfyrwyr. Ers i mi gychwyn ym Mangor, rwyf wedi disgyn mewn cariad efo’r hanes lleol a’r cyfleoedd awyr agored yn yr ardal. Rwyf wrth fy modd fod y swydd yma yn fy ngalluogi i hyrwyddo gogledd cymru i fyfyrwyr.”
“Mae’r swydd breswyl yn fy helpu ar fy llwybr yrfaol ond hefyd ar lefel sylfaenol mi fydd y profiad yma yn help mawr ar gyfer y dyfodol. Rwy’n dysgu sut i gryfhau pethau fel siarad cyhoeddus, gwaith tim, rheoli amser a sgiliau cyfweld.”
Yn y cyfamser, bu myfyrwyr o’r Ysgol Ieithoedd Modern yn y Brifysgol yn rhoi ei sgiliau amlieithog ar waith drwy gyfieithu'r datganiad Croeso Cynnes sydd ar wefan Celticos i sawl iaith, yn cynnwys Sbaeneg, Eidaleg, Almaeneg, ,Iseldireg, Galisaidd, Mandarin, Rwsieg a Ffrangeg.
Dywedodd Danielle Goody sy’n astudio gradd mewn Hanes ac Eidaleg fod y profiad wedi bod yn un gwerthfawr iawn,
“Roedd yn brofiad buddiol iawn o fewn y maes yma ac roedd yn dda cael ymarfer technegau ar gyfer fy arholiadau. Mae hefyd wedi fy ngalluogi i ehangu ar y sgiliau allweddol fel rhoi sylw i fanylion a sgiliau ymchwil. Roedd yn gyfle gwych.”
Tra bod Danielle yn cyfieithu'r darn i eidaleg bu Joshua Maunder sy'n astudio Ffrangeg a Sbaeneg gyda Eidaleg yn cyfieithu'r darn i Sbaeneg a Katherine Edwards, myfyrwraig Ffrangeg gydag Eidaleg yn cyfieithu'r darn i Ffrangeg. Dywed Katherine,
"Roedd yn gyfle gwych i ymarfer sgiliau cyfieithu tu allan i fy astudiaethau academaidd. Roedd yn ddiddordol cael y cyfle i gyfieithu i gwmni lleol."
Mae Canolfan Addysg Rhyngwladol Bangor hefyd wedi darparu gwasanaeth gyfieithu drwy eu Llysgenhadon Myfyrwyr Rhyngwladol. Mae’r myfyrwyr i gyd yn medru defnyddio eu profiadau i gyfrif fel pwyntiau tuag at y Wobr Cyfolgadwywedd Bangor.
Mae gan Prifysgol Bangor brofiad cadarn o roi cefnogaeth ragorol i fusnesau ac mae Alwyn yn gobeithio y bydd Celticos yn parhau i weithio’n agos gyda’r sefydliad ar nifer o brojectau eraill a fydd o fantais i’r cwmni ac i fyfyrwyr Bangor.” Ychwanegodd,
“Mae gennym nifer o brojectau cyffrous ar y gweill. Er engraifft, rydym yn gobeithio gweithio gyda Visit Wales i gynnig hyfforddiant i fyfyrwyr tsieineaidd Bangor fel eu bod yn cael eu cyflogi gennym i roi teithiau tywysedig o gwmpas yr ardal yn eu mamiaith.”
Celticos yw un o'r cwmniau sydd hefyd wedi manteisio ar yr hyfforddiant iaith sy'n cael ei gynnig gan broject TILT Prifysgol Bangor. Darllenwch fwy am brofiad Alwyn ar gwrs Almaeneg TILT yma:
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2015