Myfyrwyr Bangor yn cychwyn ar flwyddyn arall o astudio
Yn dilyn wythnos groeso brysur a gweithgareddau ymgynefino, mae dros 2000 o fyfyrwyr newydd yn ymgartrefu i fywyd academaidd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon. Mae’n siŵr eu bod yn hapus canfod eu bod wedi dewis astudio yn y brifysgol sydd ar y brig yng Nghymru, ac yn seithfed yn y Deyrnas Unedig o ran boddhad myfyrwyr, yn ôl yr Arolwg Boddhad Myfyrwyr cenedlaethol (NSS).
Meddai'r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor mewn ymateb i'r canlyniadau:
"Mae gennym ‘gynnig’ gwych i fyfyrwyr sy’n astudio ym Mangor. Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad sy’n ymestyn dros 130 o flynyddoedd o ddarparu addysgu a gofal rhagorol i fyfyrwyr, ac rydym yn ymfalchïo mewn ansawdd da ein dysgu a’n hymchwil. Yn ddiweddar, rydym wedi cyflwyno mentrau i roi llais cryfach i fyfyrwyr yn y brifysgol, ac mae llwyddiant ein dull o weithredu wedi’i adlewyrchu mewn arolygon diweddar.”
Mae myfyrwyr wedi dewis cyrsiau gradd o blith dewisiadau eang o gyfuniadau sy’n ymestyn ar draws y celfyddydau a’r dyniaethau, gwyddorau cymdeithasol, addysg, gwyddor gofal iechyd, busnes, y gyfraith a’r gwyddorau traddodiadol. Mae pynciau ym maes gwyddorau’r amgylchedd, daearyddiaeth, bioleg a gwyddor môr yn gynyddol boblogaidd ymysg myfyrwyr newydd y brifysgol, gyda myfyrwyr yn dal i fod yn frwd dros gael lle ar gyrsiau fel seicoleg.
Un o uchafbwyntiau’r Wythnos Groeso oedd digwyddiad deuddydd Serendipedd. Mae’r digwyddiad yn gyfle i fyfyrwyr newydd ddysgu am y dewis o Gymdeithasau a Chlybiau Chwaraeon sydd ar gael iddynt, yn ogystal â chael gwybodaeth am nifer o fusnesau, cyrff ac elusennau lleol. Myfyrwyr Bangor yw’r unig rai mewn prifysgol gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig sy’n cael ymuno â Chlybiau a Chymdeithasau yn rhad ac am ddim.
Gyda thros 50 o dimau chwaraeon a chlybiau yn yr Undeb Athletau, mae digon o gyfle i fyfyrwyr y Brifysgol gymryd rhan mewn chwaraeon wrth astudio, yn enwedig yn dilyn y buddsoddiad o £2.5 m mewn cyfleusterau chwaraeon yng Nghanolfan Brailsford y Brifysgol, a chwblhau cae chwarae 3G newydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor, a ddatblygwyd gyda chymorth ariannol gan y Brifysgol. Gall myfyrwyr hefyd wirfoddoli drwy Undeb y Myfyrwyr.
Yn ogystal â gweithgareddau cynefino a chymdeithasol, fel teithiau cerdded o amgylch y ddinas neu ymweliadau â lan y môr, mae myfyrwyr wedi bod yn dewis eu modiwlau ac yn dysgu beth arall sydd gan astudio ym Mangor i’w gynnig.
Gyda chyfleoedd i astudio dramor a dysgu iaith arall, gan gynnwys Cymraeg, am ddim, yn ogystal â Gwobr Cyflogadwyedd Bangor ymysg y gweithgareddau ychwanegol y gall myfyrwyr Bangor eu dewis, mae gan fyfyrwyr Bangor ddigonedd o gyfleoedd i ehangu eu CV a magu profiadau gwerthfawr wrth astudio.
Wrth i’r myfyrwyr newydd ddod i arfer â bywyd myfyriwr, mae sylw hefyd yn troi at y myfyrwyr hynny sy’n astudio mewn coleg addysg bellach neu ysgol, neu unrhyw un sy’n ystyried ennill gradd prifysgol. Mae Diwrnodau Agored nesaf y Brifysgol ar 11 a 25 Hydref, ac mae modd cofrestru ar eu cyfer drwy wefan y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2014