Myfyrwyr Bangor yn cyflwyno Syniadau Busnes Disglair
Mae myfyrwyr mentrus ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos eu sgiliau busnes yn rownd gyntaf cystadleuaeth genedlaethol sy’n cael ei chynnal gan Santander.
Cafodd myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, sy’n astudio ystod eang o bynciau, y dasg o ddyfeisio syniad busnes arloesol a’i gyflwyno i banel o feirniaid yn cynnwys Is-ganghellor y Brifysgol, Yr Athro John G.Hughes. Trefnwyd y gystadleuaeth gan dîm Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a chyflwynwyd amryw o syniadau i’r panel, yn cynnwys gwregys achub, stretsier pwmpiadwy, pic gitâr a sedd bwrpasol i rai sy’n mynd i achlysuron fel cyngherddau awyr agored.
Yn dilyn y naw cyflwyniad, rhoddodd y beirniaid wobrau o £200 i’r myfyriwr israddedig a’r myfyriwr ôl-raddedig gorau, yn ogystal â gwobrau o £100 a £50 i’r ail a’r trydydd orau ymysg yr israddedigion.
Enillydd y dosbarth israddedig, gyda’i wregys achub, oedd Shem ap Geraint, myfyriwr BSc Dylunio Cynnyrch. Mae dyfais Shem, y ‘Rocket Life Ring’, yn fersiwn fodern o’r gwregys achub a gellir rei daflu’n fwy cywir ac yn bellach na’r gwregys traddodiadol. Hefyd yn fuddugol roedd Sonia Fizek, enillydd y dosbarth ôl-raddedig, am ei syniad am gêm wedi selio ar leoliad.
Cymeradwyodd Yr Athro John G.Hughes y myfyrwyr gan gyflwyno’r gwobrau i’r enillwyr, “Roedd y syniadau a’r brwdfrydedd a ddangoswyd gan y myfyrwyr wedi creu cryn argraff ar y beirniaid. Mae ansawdd rhai o’r syniadau busnes yn rhagorol ac mae’n amlwg fod potensial masnachol cryf i rai o’r cynhyrchion. Fy mwriad yw arwain Prifysgol Bangor i fod yn un o sefydliadau mwyaf blaenllaw’r wlad am fenter ac arloesi ac o’r hyn rwyf wedi ei weld heddiw rwy’n hyderus y gallwn gyflawni hyn.”
Dyfeisiodd Shem ap Geraint y Rocket Life Ring wedi iddo dreulio cyfnodau’n gweithio mewn harbwrs a chyda’r RNLI. Eglurodd pam ei fod wedi penderfynu ailwampio’r gwregys achub traddodiadol, “O brofiad roeddwn yn ymwybodol nad ydy gwregysau achub traddodiadol bellach yn cyd-fynd â’r hyn sydd ei angen, felly penderfynais ddylunio cynnyrch y gellir ei daflu’n llawer iawn pellach. Mae wedi cymryd deg mis i mi ddatblygu’r gwregys ac rwyf wedi bod yn cydweithio â chwmni sy’n dylunio siacedi achub. Mae’n deimlad gwych i ennill y gystadleuaeth. Mae’n rhaid i mi rŵan addasu fy nghynllun busnes ar gyfer y rownd nesaf ac rwyf am chwilio am gyllid pellach i ddatblygu’r cynnyrch.”
Meddai’r Athro Hughes am syniad Shem, “Yr hyn sy’n wych am syniad Shem yw ei fod yn syniad syml sy’n gweithio’n arbennig o dda, gan fod Shem wedi archwilio pob agwedd ar dechnoleg a marchnad ar gyfer y cynllun. Mae’r panel i gyd yn hyderus y bydd y syniad yn llwyddiannus.”
Cymeradwyodd y beirniaid Sonia Fizek, a gipiodd y wobr gyntaf ôl-raddedig, am ei syniad o gêm wedi ei selio ar leoliad.
Dywedodd yr Athro Hughes, “Roedd hwn yn syniad gwych sy’n gyfoes iawn oherwydd mae gemau wedi eu seilio ar leoliad yn cynyddu mewn poblogrwydd. Er ei bod yn dal yn ddyddiau cynnar i nifer ohonynt, mae Sonia o fewn cyrraedd marchnad bwysig.”
Hefyd yn derbyn gwobrau am eu syniadau busnes roedd yr israddedigion ail-orau, tîm ‘Booster’ a ddyfeisiodd sedd arbennig ar gyfer rhai sy’n mynd i wyliau mwdlyd dros yr haf. Yn ogystal â galluogi pobl i eistedd heb faeddu eu dillad ar y llawr, mae lle ar y sedd hefyd ar gyfer hysbysebion. Enillydd y drydedd wobr oedd Samuel Clegg gyda’i ‘InflaStretcher’, stretsier pwmpiadwy sy’n hawdd ac yn ysgafn i’w gario ar fynyddoedd.
Bydd Shem ap Geraint yn cynrychioli Prifysgol Bangor yn rownd derfynol Gwobrau Menter Santander.
- Beirniaid y gystadleuaeth oedd yr Athro John G.Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor; Sian Hope, Cyfarwyddwr Gweithredol Arloesi; Yr Athro Paul Spencer, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol; Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Dylunio Pontio; Chris Walker, Ymgynghorydd Busnes, Venture Wales.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2011