Myfyrwyr Bangor yn cynnal gwasanaeth Diwrnod AIDS y Byd
Wynebu realiti HIV ac AIDS
Bydd myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn ymgasglu yng Nghadeirlan Bangor ddydd Mercher nesaf (1 Rhagfyr) ar gyfer gwasanaeth blynyddol Bangor ar Ddiwrnod AIDS y Byd. Bydd Undeb Myfyrwyr Bangor a’r Gaplaniaeth Anglicanaidd yn cynnal gwasanaeth i gofio am y bobl hynny sydd wedi colli’u bywydau i’r clefyd dychrynllyd hwn, cynnig gobaith i’r rheiny sy’n dioddef ohono a chodi ymwybyddiaeth am yr elusennau HIV/AIDS yn ein cymdogaeth.
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys areithiau, storïau, darlleniadau, cerddoriaeth a goleuo canhwyllau. Mae croeso i bawb o ba bynnag cefndir crefyddol neu ddim ac fe fydd yn gyfle i uno cymunedau’n gadarnhaol yn wyneb y bygythiad enfawr hwn i fywyd dynol. Bydd y gwasanaeth yn para am oddeutu awr a bydd te a choffi ar gael yn y Gadeirlan o 7pm ymlaen cyn i’r gwasanaeth gychwyn am 7.15pm.
Dywedodd y Parch. Kenneth Padley Cydlynydd Tîm Caplaniaeth Prifysgol Bangor ‘Mae pwysigrwydd ac apêl Diwrnod AIDS y Byd wedi lledaenu dros y tair degawd ddiwethaf wrth i bobl ddeffro i’r ffaith bod AIDS yn effeithio ar bawb. Mae gwasanaethau crefyddol wedi chwarae rhan bwysig erioed, yn gyntaf i goffau’r meirw ac yn fwy diweddar yn codi ymwybyddiaeth, lleihau rhagfarn, cynnig diolch am ddatblygiadau meddygol, a gweithio tuag at welliant mewn cyfleusterau ar gyfer dioddefwyr AIDS a HIV.”
Caiff yr holl arian a godir o werthu rhubanau a lluniaeth ei gyfrannu at elusennau AIDS.
Mae Diwrnod AIDS y Byd yn ddigwyddiad byd-eang sy’n ysgogi miloedd o ymgynulliadau, partïon a gwrthdystiadau drwy’r byd. Bob 10 eiliad bydd rhywun yn marw o afiechyd sy’n gysylltiedig ag AIDS. Mae hynny’n golygu bod dros dair gwaith poblogaeth Bangor yn marw bob blwyddyn.
Dewch i ddangos eich cefnogaeth a’ch gobaith am ddyfodol gwell – bydd rhubanau coch ar gael wrth y drws.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2011