Myfyrwyr Bangor yn cystadlu yng Nghân i Gymru eto eleni
Yn dilyn llwyddiant Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams, myfyrwyr Prifysgol Bangor, yng nghystadleuaeth Cân i Gymru y llynedd, a llwyddiant Nia Davies Williams, myfyrwraig MA cerddoriaeth, a ddaeth yn drydydd yn 2012, mae dau o fyfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth y brifysgol wedi cael eu cynnwys ar restr fer y gystadleuaeth boblogaidd. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei ddarlledu am 7.45 efo’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi mewn rhaglen arbennig am 9.30 nos Wener 28.2.14.
Ifan Davies o Lanegryn, Tywyn a Gethin Griffiths o Fethel yw’r awduron - cyfansoddwyr.
Esboniodd Ifan Davies, sy’n 19 ac yn gyn-fyfyriwr o Goleg Meirion Dwyfor, eu bod yn hoffi fformat newydd y gystadleuaeth a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf y llynedd, a bod y caneuon a ddewiswyd i’r rownd derfynol y llynedd yn llawer mwy cyfoes nag o’r blaen. Roedd hyn wedi apelio atynt ac wedi eu hysbrydoli i fynd ati i gyd-gyfansoddi cân ar gyfer y gystadleuaeth.
Byddant yn canu’r gân ‘Dydd yn Dod’ fel deuawd ac maent yn gobeithio cael y band Swnami i chwarae’r gerddoriaeth iddynt - gan fod Ifan yn aelod o’r grŵp hwnnw.
Gethin, sy’n 20 oed ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Brynrefail, yw awdur y geiriau.
Yn ôl Gethin: “Cân am daith feddyliol rhywun sydd wedi bod yn teimlo’n isel ac sy’n sylweddoli bod amser gwell i ddod ydy ‘Dydd yn Dod’.”
Ifan a fu’n bennaf gyfrifol am gyfansoddi’r gerddoriaeth. Mae’n disgrifio’r gerddoriaeth fel ‘synth-pop’, sy’n debyg i’r arddull sy’n boblogaidd ar y sin roc Gymraeg ar hyn o bryd, gan ei fod yn aelod o’r grŵp Swnami, mae’n debyg ei fod yn gwybod!
Meddai Ifan:
“Mae’n gan eithaf electronig ac ‘upbeat’; sydd yn addas i bawb ei mwynhau!”
Mae'r ddau yn eu hail flwyddyn yn astudio am radd anrhydedd mewn cerddoriaeth ac yn byw yn Neuadd John Morris Jones y brifysgol. Dyma'r tro cyntaf iddynt gyfansoddi gyda'i gilydd er eu bod yn perfformio’n gyson mewn nosweithiau meic agored.
Er bod Gethin yn teimlo’n eithaf nerfus, mae’n edrych ymlaen at gystadlu yn y noson fawr.
Dywedodd: “Rydym yn wrth ein boddau ein bod wedi cael ein dewis i fod yn un o’r chwech ar y rhestr fer, cawn weld beth a ddaw o’r profiad.”
Ychwanegodd: “Dewisais astudio ym Mhrifysgol Bangor oherwydd y cyfle i astudio cwrs o safon uchel drwy gyfrwng y Gymraeg. Y peth gorau am y brifysgol yw bod popeth ar gael drwy’r Gymraeg.
Meddai Ifan: “Mae cystadlu yn brofiad cyffrous iawn, ond beth bynnag sy’n digwydd, mae'n debyg y bydd Gethin a minnau’n jamio efo’n gilydd yn y dyfodol agos”.
Dywedodd am y brifysgol: “Y peth gorau am Fangor yw’r ochr gymdeithasol wrth gwrs! Ond mae cael astudio cerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn bwysig i mi, ac mae’r dewis o fodiwlau yn grêt! Dewisais astudio yma er mwyn cael byw bywyd addysgol a chymdeithasol drwy’r Gymraeg.”
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2014