Myfyrwyr Bangor yn dathlu Gŵyl Dewi
Mae Undeb Myfyrwyr Bangor ac UM Cymraeg Bangor (UMCB) yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau i ddathlu Gŵyl Dewi - Wythnos y Ddraig! Am yr ail flwyddyn bydd yr Undebau’n cynnal digwyddiadau i gynnwys myfyrwyr, staff y Brifysgol a phobl Bangor a’r cylch gan ddechrau ar yr 28ain o Chwefror a pharhau drwy’r wythnos tan ddydd Sul y 6ed o Fawrth.
Unwaith eto bydd yr wythnos yn ddechrau gyda Sioe Gŵyl Dewi i ddathlu diwylliant Cymru, sioe yn llawn canu a cherddoriaeth gan Gymry talentog y Brifysgol a fydd yn dechrau am 7pm yn Neuadd Powis y Brifysgol (ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau). Gwerthir tocynnau i’r digwyddiad yn Siop Viv ar Stryd Fawr Bangor ac ar y drws am £4 (£2.50 gostyngiadau).
Ar noson Gŵyl Dewi ei hun bydd noson o gemau a band Cymraeg yn adlewyrchu Cymru mwy modern. Mae’r noson am ddim am 7pm yn nhafarn y Glôb Cymru fwy modern gyda.
Nos Fercher byddwn yn edrych ymlaen at ddyfodol ein hiaith a’n diwylliant gyda sgwrs ar ddyfodol S4C gyda Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am 6.30pm yn Ystafell Gyffredin Neuadd JMJ ar safle’r Ffriddoedd.
Nos Iau bydd traddodiad modern ymysg Cymry Bangor yn parhau gyda noson Clwb Cymru llawn cerddoriaeth Cymraeg am 10pm yn Hendre. Bydd mynediad yn £4 neu £3 mewn gwisg ffansi Gŵyl Dewi. Bydd bysys am ddim yn rhedeg o Fangor.
Bar Uno fydd y lleoliad ar gyfer sesiwn amser cinio Cymdeithas Llywelyn, y gymdeithas i ddysgwyr. Gall dysgwyr ymarfer eu Cymraeg yn ystod eu hamser cinio rhwng 12.30 a 14.30 ddydd Gwener.
Nos Wener mae rhaglen Pontio yn eich gwahodd i noson o ddigrifwch a cherddoriaeth, gyda chwrw a chinio traddodiadol Cymreig i ddathlu Gŵyl Dewi, yng nghwmni Dewi Pws a’i grŵp hwyliog Sesh Bach ynghyd â Ryland Teifi, Delyth Wyn a llu o ffrindiau gwallgof eraill yn canu gwerin fel y dylasai fod! Cawn hefyd gwmni Eirlys Bellin, digrifwr dawnus sy’n byw yn Llundain ac yn prysur wneud enw iddi ei hun. A bydd Elidir Jones, y digrifwr ifanc sy’n wreiddiol o Fangor yn ein tywys i’w fyd bisâr! Yn dechrau am 7.30yh yn Neuadd Powis bydd tocynnau ar gael ar-lein neu ar y drws am £12.
Ac i orffen yr wythnos, ar ddydd Sul y 6ed fe’ch gwahoddir i Dwmpath traddodiadol am 2yh yn Neuadd Powis, cyfle gwych i ddawnsio a mwynhau wrth roi blas ar Gymru i’r di-Gymraeg. Tocynnau ar werth o Siop Viv neu ar y drws am £4 (£2.50 gostyngiadau).
Meddai Sharyn Williams, Is-Lywydd Materion Cymreig a'r Gymuned Undeb Myfyrwyr Bangor:
“Dyma gyfle i’r Cymry Cymraeg ddathlu ein hiaith a’n etifeddiaeth, a chyfle i’r miloedd o fyfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd sy’n dod i Gymru ddysgu am yr iaith a’r diwylliant sy’n gwneud Cymru’n wahanol i weddill y DU. Yn ystod yr wythnos yma bydd yr Undebau a Phontio yn arddangos y gwaith yr ydym yn ei wneud dros ein hiaith a’n gwlad i’r cyhoedd, myfyrwyr, a staff y Brifysgol. Bydd Wythnos y Ddraig yn gyfle gwych i ledaenu’r neges bod y Gymraeg yn fyw trwy gerddoriaeth a chomedi Cymraeg, ac i arddangos ein diwylliant cryf trwy dwmpath a Sioe Gŵyl Dewi.”
Meddai Mair Rowlands, Llywydd UMCB:
"Bydd Wythnos y Ddraig yn hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymreig ymhlith pobl Bangor ac yn gyfle i fwynhau ein hunaniaeth Gymreig. Efo Gŵyl Dewi a refferendwm dros ddyfodol ein gwlad yn digwydd yn ystod yr un wythnos mae hyn yn gyfle gwych i edrych ar beth sydd yn wir wneud Cymru’n unigryw ac i drafod dyfodol y pethau yma wrth i ni symud ymlaen."
Am ragor o wybodaeth e-bostiwch vp.wac@undeb.bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 388006.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011