Myfyrwyr Bangor yn dathlu llwyddiant yng nghystadleuaeth enwog Ffug Lys Barn Telders
Mae tîm o fyfyrwyr Y Gyfraith o Brifysgol Bangor yn dathlu llwyddiant mewn cystadleuaeth fyd-enwog i fyfyrwyr y gyfraith.
Y mis yma bu Cathal McCabe, Adam Gulliver, Damian Etone ac Andrew Jones yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Ffug Lys Barn Ryngwladol Telders - y tîm cyntaf erioed i wneud hynny. Hon yw'r gystadleuaeth ryngwladol fwyaf adnabyddus yn y gyfraith yn Ewrop ac fe'i cynhelir yn flynyddol yn Yr Hâg, Yr Iseldiroedd.
Er mai tîm o Brifysgol Leiden yn Yr Iseldiroedd enillodd y rownd derfynol yn y diwedd, Ysgol y Gyfraith Bangor oedd y tîm o Brydain a berfformiodd orau eleni, gan gyrraedd y rowndiau cynderfynol. Buont yn llwyddiannus iawn, gan ddod yn bedwerydd allan o 25 yn y rowndiau llafar yn cynrychioli ochrau'r ymgeisydd i'r achos.
Yn ystod y gystadleuaeth dridiau, bu'r cynrychiolwyr Cymreig yn wynebu timau o Norwy, Yr Alban, Serbia a Bwlgaria i bledio achos cyfreithiol ffug, 'Anghydfod yr Afon Varsho', mewn achos llys dynwaredol. Roedd yr achos yn ymwneud ag amrywiaeth o faterion cyfraith ryngwladol gyhoeddus, yn cynnwys anghydfodau tiriogaethol, dehongli cytundebau, cloddio am nwy siâl, a'r gyfraith yn ymwneud â llygredd trawsffiniol, asesiadau effaith ar yr amgylchedd, yn ogystal â hawliau cenedlaethau'r dyfodol.
Ymysg y rhai a oedd yn beirniadu'r tîm Cymreig roedd cynrychiolwyr o Weinyddiaeth Materion Tramor yr Iseldiroedd, y Sefydliad dros Wahardd Arfau Cemegol, y Llys Troseddol Rhyngwladol, a llawer mwy.
Dywedodd un o'r tîm, Adam Gulliver, myfyriwr LLB ail flwyddyn, bod y cyfle wedi bod yn brofiad hynod werthfawr iddynt i gyd. "Roedd y cyfle i gyfarfod â rhai o academyddion mwyaf disglair y byd a chyflwyno ein dadleuon o'u blaenau yn brofiad cwbl unigryw a digymar. Hefyd roedd yn ddiddorol cael cyfarfod â myfyrwyr eraill Y Gyfraith o bob rhan o Ewrop. Yn sicr mae fy sgiliau siarad cyhoeddus wedi datblygu'n sylweddol iawn, yn ogystal â'm gwybodaeth am gyfraith ryngwladol, a oedd yn brin iawn ar ddechrau'r gystadleuaeth."
Ychwanegodd Cathal McCabe, myfyriwr LLM mewn Cyfraith Trosedd Ryngwladol a Chyfraith Hawliau Dynol: "Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ein helpu a'n cefnogi drwy'r misoedd o baratoi, yn arbennig ein hyfforddwyr, sydd wedi ein helpu bob cam o'r daith."
"Roedd yn wych gweld cymaint o dimau dawnus yn cystadlu gyda'r fath frwdfrydedd a medr," meddai Dr Evelyne Schmid, a fu'n cyd-hyfforddi'r tîm ynghyd â'i chyd-ddarlithydd yn y gyfraith, Yvonne McDermott. "Roedd safon y gystadleuaeth yn rhagorol ac rwyf yn hynod falch o fod wedi cael mynd gyda'r tîm Cymreig cyntaf i'r Hâg. Mae'r myfyrwyr wedi rhoi Cymru ar y map yn un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous Ewrop ym myd y gyfraith."
Dymuna Tîm Telders Bangor diolch pawb bu’n cefnogi’r tîm yn eu hyfforddiant ac yn eu hymdrechion i godi arian. Yn benodol, hoffent ddiolch i’r rhoddwyr canlynol am eu haelioni yn helpu nhw cyrraedd eu targed cyllidol:
Yr Athro Suzannah Linton
Daniel Mburu
Yvonne McDermott
Monalise Odibo
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2013