Myfyrwyr Bangor yn dechrau busnes y gyfraith yn Canary Wharf
Mae Kawa, Guimaraes and Associates Solicitors, cwmni o gyfreithwyr a sefydlwyd yn ddiweddar yng Nghaergybi, wedi agor chwaer gwmni mewn adeilad adnabyddus yn One Canada Square, Canary Wharf, Llundain.
Sefydlwyd y cwmni gan yr entrepreneuriaid, Mehedi Rahim a Kate Kawa. Kate yw'r prif swyddog gweithredol a’r rheolwr bartner, a Mehedi yw'r uwch bartner. Mae'r cwmni yn ymdrin ag amrywiaeth eang o faterion cyfreithiol yn cynnwys cyfraith teulu, mewnfudo, contract, camwedd, cyfreitha, cyfraith Islamaidd, cyllid a chyflogaeth ac yn arbenigo mewn cyfraith ryngwladol.
Mae Mehedi Rahim yn fyfyriwr PhD yn ei flwyddyn olaf yn ymchwilio i gyfraith Islamaidd ac Yswiriant Morol y DU yn Ysgol y Gyfraith ac mae Kate wedi graddio gyda MBA o Ysgol Busnes Bangor. Mae gan y ddau fyfyriwr rhyngwladol gymwysterau proffesiynol a rhyngddynt mae ganddynt gryn brofiad o waith ymarferol gyda chleientiaid a chyfreitha. Gwnaethant sylweddoli nad oedd llawer o ddarpariaeth wedi'i chanoli i bobl gyda phroblemau cyfreithiol penodol a oedd angen gwybodaeth a phrofiad o gyfraith ryngwladol - materion yn amrywio o gael fisa i fasnach forol ryngwladol.
Mae gan y partneriaid brofiad o weithio i gorfforaeth fiwrocrataidd fawr ac roeddent yn awyddus i ddianc o'r amgylchedd hwnnw gan eu bod yn teimlo ei fod yn ffordd araf o wneud penderfyniadau nad oedd yn annog creadigrwydd ac arloesedd. Gan eu bod yn aelodau o deuluoedd entrepreneuraidd roedd ganddynt y syniad a'r ysgogiad i ddechrau cwmni annibynnol yn hytrach nag ailymuno â sefydliad mawr.
Gyda'r holl brofiad hwn, aethant ati i gynnal ymchwil i'r farchnad yn ogystal â datblygu eu sgiliau arloesi drwy'r gefnogaeth sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor i helpu i wireddu eu breuddwyd.
Meddai Kate, “Roedd tîm Byddwch Fentrus Prifysgol Bangor yn gefnogol iawn yn ystod ein cyfnod astudio. Buom mewn gweithdai a'n helpodd i fireinio ein syniadau. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n mentoriaid, Chris Walker a Tim Ashcroft - gyda Tim yn ein helpu i wneud cais am grant Llywodraeth Cymru (bwrsariaeth £6 mil drwy raglen Cymorth Cychwyn Busnes i Raddedigion). Fe'n helpodd hefyd i baratoi ar gyfer cystadleuaeth Gwobrau Entrepreneuraidd Santander lle cawsom lawer o sylwadau a chyngor defnyddiol gan y beirniaid."
Roedd y gweithdai a'r gefnogaeth fentora ar gael yn rhad ac am ddim i Mehedi a Kate drwy Ganolbwynt Rhanbarthol Gogledd Orllewin Cymru a'r Cymorth Cychwyn Busnes i Raddedigion a Rhaglen Cymorth Menter CCAUC.
Y sialens fwyaf i'r partneriaid oedd cael trwydded gan y corff awdurdodi, y SRA, ac yswiriant indemniad proffesiynol i gwmni cyfreithiol. Gyda chymaint o gwmnïau cyfreithiol yn y DU yn colli eu trwydded bob blwyddyn roedd hwn yn rhwystr mawr i'w oresgyn.
Meddai Tim Aschroft, mentor rhaglen Cymorth Cychwyn Busnes i Raddedigion trwy'r rhaglen Byddwch Fentrus:
"Gall dechrau unrhyw fusnes fod yn her anodd, ond mae mynd mewn i broffesiwn fel y gyfraith sydd â rheoliadau caeth yn golygu goresgyn rhwystrau ychwanegol. Mae eu penderfyniad i ddechrau eu busnes ar Ynys Môn yn y lle cyntaf, ac yna ehangu i Lundain yn gyflawniad aruthrol."
Mae'r ddau yn awr yn mwynhau'r manteision a'r buddion o fod yn hunan gyflogedig yn cynnwys rheoli eu hamser eu hunain, annibyniaeth ariannol ac ysbrydoli eraill. Maent hefyd yn gwybod am y realiti o oriau hir, incwm amrywiol a chymryd risg ond maent yn credu'n gryf bod y manteision yn gwrthbwyso'r anfanteision wrth wneud rhywbeth y maent yn ei garu. Eu dadl yw bod paratoi yn hollbwysig ac mai diffyg paratoi yw'r rheswm pam bod cymaint o fusnesau newydd yn methu â goroesi ar ôl pum mlynedd o fasnachu. Mae Mehedi a Kate yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i Brifysgol Bangor trwy roi cyfleoedd i fyfyrwyr eraill ym Mangor.
Meddai Mehedi am y dyhead hwn, "..gan ein bod wedi mynd drwy'r broses ein hunain rydym yn gwybod sut mae'n teimlo. Rydym eisiau rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill y profiad angenrheidiol sy'n anodd ei gael yn y maes hwn."
Darllenwch fwy am eu menter newydd yn - www.facebook.com/kgna.co.uk a'r wefan sydd newydd ei lansio.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2014