Myfyrwyr Bangor yn ennill Cân i Gymru
Mae dau gyfaill sy’n cyd-chwarae mewn band ac yn astudio yn yr un brifysgol newydd ennill Cân i Gymru gyda chân a gyfansoddwyd wrth iddynt deithio adref o Brifysgol Bangor.
Bydd Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams fu'n perfformio 'Mynd i Gorwen efo Alys' ar y rhaglen gyda chymorth aelodau eraill eu band, Jessop a'r sgweiri. Maent wedi ennill gwobr o £3,500 a'r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
Mae Rhys, 22 oed, yn astudio gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol Y Gymraeg y Brifysgol ac mae Osian, sydd hefyd yn 22oed, yn ei ail flwyddyn yn astudio gradd mewn Cerddoriaeth.
Mae’r ddau’n ffrindiau ers eu cyfnod yn Ysgol Uwchradd y Berwyn, (daw Rhys o Glanyrafon ger Corwen ac Osian o Lanuwchllyn ger Y Bala) ac wedi dechrau Jessop a'r Sgweiri ynghyd â thri chyfaill arall yr haf diwethaf. Rhys yw prif leisydd y band, ac mae Osian yn rhannu ei ddoniau cerddorol rhwng y band hwn a'r bandiau eraill Candelas, Siddi a Cowbois Rhos Botwnnog.
Recordiwyd y gân ganddynt eu hunain a chewch wrando ar y trac ar safle’r rhaglen Cân i Gymru.
Ysgrifennwyd y rhan fwyaf o’r gân wrth iddynt deithio adre o'r coleg yn y car un prynhawn Mercher. Mae’r gân, ‘Mynd i Gorwen efo Alys’ mewn arddull traddodiadol '12 bar blues,' ac, fel yr esbonia Rhys,
“Yr oedd gan y ddau ohonom syniad da sut gân fyddai hon, ond gan mai Osian yw'r cerddor, mae'n debyg mai fo sydd yn bennaf gyfrifol am yr alaw. O ran y geiriau, fe wnaed y gwaith gan y ddau ohonom.”
Meddai Osian, “Gan mai '12 bar blues' yw'r gân, mae’r arddull a’r cordiau wedi cael eu chware ers blynyddoedd maith. Ein bwriad oedd cymryd yr hen arddull a'i foderneiddio ychydig trwy ei drymhau, ond yn bendant, band roc a rôl hen ffasiwn ydan ni!”
Dywed y ddau eu bod yn bendant am weithio gyda'i gilydd yn y dyfodol, drwy ysgrifennu mwy o ganeuon i Jessop a'r Sgweiri. Ond ar hyn o bryd, heblaw am gystadlu yn y gystadleuaeth, yr unig fwriad sydd ganddynt yw cwblhau eu cyrsiau a pharhau i ysgrifennu caneuon.
Dewisodd Rhys Gwynfor astudio yn Ysgol y Gymraeg am ei bod yn adran wych ac roedd eisiau manteisio ar y cyfle i astudio rhywbeth sydd o wir ddiddordeb iddo. Meddai Osian Huw Williams, “Mae dewis gwych o fodiwlau yn yr Ysgol Cerddoriaeth, ac mae Bangor yn ddinas fach wych gyda bywyd cymdeithasol arbennig.”
Meddai’r Athro Gerwyn Wiliams o Ysgol y Gymraeg, "Llongyfarchiadau calonnog i Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams ar ennill Cân i Gymru 2013! Ac yntau'n un o fyfyrwyr y cwrs MA Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg, mae'n wych o beth gweld bod Rhys Gwynfor wedi sianelu ei egnïon creadigol ac wedi cydweithio efo Osian Huw Williams mor llwyddiannus yn y gystadleuaeth genedlaethol bwysig hon."
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2013